Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin mewn dynion yn y Deyrnas Unedig. Yn flaenorol, roedd rhai cleifion yn derbyn triniaeth ddiangen a oedd yn lleihau ansawdd bywyd, tra bod y driniaeth yn aneffeithiol i eraill.

Cyrhaeddodd yr Athro Malcolm Mason OBE Gaerdydd ym 1992, gyda’i syniad i gynnal treial clinigol mewn canser y prostad.

Roedd y treial cyntaf hwn yn ddechrau perthynas gydol gyrfa gyda’r hyn a ddaeth wedyn yn uned treialon clinigol y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).

Mae ein dealltwriaeth a’n hymwybyddiaeth o ganser y prostad wedi newid yn aruthrol ers i’r Athro Mason gynnal ei dreial clinigol cyntaf, ac felly hefyd driniaethau a goroesiad diolch yn rhannol i’r treialon clinigol dilynol y mae’r Athro Mason a’i gydweithwyr wedi gweithio arnynt.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Caerdydd