Sefydlu safonau gofal byd-eang newydd ar gyfer cleifion sy’n dioddef o ganser y prostad
Chwaraeodd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd rolau blaenllaw mewn treialon clinigol mawr, a wellodd sut y caiff canser y prostad ei drin yn ogystal â dylanwadu ar y ffordd y mae oncolegwyr yn monitro eu cleifion ac yn defnyddio llawdriniaethau, radiotherapi, a therapi hormonau.
Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin mewn dynion yn y Deyrnas Unedig. Yn flaenorol, roedd rhai cleifion yn derbyn triniaeth ddiangen a oedd yn lleihau ansawdd bywyd, tra bod y driniaeth yn aneffeithiol i eraill.
Cyrhaeddodd yr Athro Malcolm Mason OBE Gaerdydd ym 1992, gyda’i syniad i gynnal treial clinigol mewn canser y prostad.
Roedd y treial cyntaf hwn yn ddechrau perthynas gydol gyrfa gyda’r hyn a ddaeth wedyn yn uned treialon clinigol y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).
Mae ein dealltwriaeth a’n hymwybyddiaeth o ganser y prostad wedi newid yn aruthrol ers i’r Athro Mason gynnal ei dreial clinigol cyntaf, ac felly hefyd driniaethau a goroesiad diolch yn rhannol i’r treialon clinigol dilynol y mae’r Athro Mason a’i gydweithwyr wedi gweithio arnynt.