Yn ystod ymweliad datblygu’r farchnad estynedig ag India yn ystod hydref 2022, bu Rheolwr Datblygu’r Farchnad Cymru Fyd-eang ar gyfer India yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio rhwng sectorau addysg uwch ac addysg bellach Cymru a sefydliadau yn Telangana. Bu Cymru Fyd-eang yn cynnal trafodaethau gydag amryw o brifysgolion a sefydliadau yn Telangana, gyda’r nod o gasglu ystod o gyfleoedd a allai fod o fudd i’r naill ochr a’r llall. Ariannwyd yr ymweliad hwn gyda chymorth ymarferol gan Lywodraeth Telangana.

Un o’r pethau a gyflawnwyd oedd y bartneriaeth a ffurfiwyd gyda'r Cylch Ymchwil ac Arloesi yn Hyderabad (RICH), hwylusydd dylanwadol sy'n gweithredu ar y cyd â Llywodraeth Talaith Telangana. Prif amcan RICH yw rhoi cymorth i berthnasoedd rhwng gwahanol endidau yn y sectorau ymchwil ac arloesi yn Telangana. Gan gydnabod y bwlch sgiliau a’r galw am arbenigedd yn ymwneud â Cherbydau Trydan (EV), gweithiodd Cymru Fyd-eang gyda RICH i ganfod sefydliad addas a allai elwa ar arbenigedd colegau addysg bellach Cymru.

Cyflwynodd Cymru Fyd-eang fanteision y rhaglen a’r potensial ar gyfer cydweithio â choleg addysg bellach o Gymru yn seiliedig ar arbenigedd technegol yng Nghymru. Y nod oedd pontio'r bwlch sgiliau trwy gynllunio a chyflwyno cwricwlwm EV cynhwysfawr. Y weledigaeth oedd manteisio ar gryfderau’r ddau bartner – arbenigedd academaidd colegau addysg bellach Cymru a’r hwyluso strategol gan RICH.

Trefnodd Rheolwr Datblygu’r Farchnad Cymru Fyd-eang drafodaethau ac archwiliadau gyda RICH yn unol â’u meysydd ffocws craidd: bwyd ac amaethyddiaeth, gwyddorau bywyd, a chynaladwyedd. Sicrhaodd y dull hwn fod y cydweithio yn cydfynd ag anghenion a blaenoriaethau penodol y ddau ranbarth, gan wella ei effaith a’i gynaladwyedd.

Rhannwyd Mynegiant o Ddiddordeb ymhlith holl golegau addysg bellach Cymru. Roedd yr alwad agored hon yn gwahodd diddordeb gan golegau addysg bellach a oedd yn fodlon cyfrannu eu harbenigedd i ddatblygu’r cwricwlwm EV. Roedd yr ymagwedd hon nid yn unig yn hwyluso ymgysylltu ond hefyd yn tanlinellu’r ysbryd cydweithredol sy’n diffinio dull Cymru Fyd-eang o weithredu.

Trwy nodi amcanion cyffredin, manteisio ar gryfderau ein gilydd, a mynd i'r afael â bylchau o ran sgiliau, mae'r trefniant cydweithredol hwn yn dangos y potensial ar gyfer partneriaethau rhyngwladol effeithiol gyda rhanddeiliaid lluosog.