Gan weithio gyda Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân, bu’r Athro Rob Honey a Dr Sabrina Cohen-Hatton o’r Ysgol Seicoleg yn astudio penderfyniadau y mae diffoddwyr tân yn eu gwneud ar eu pennau eu hunain, ac mewn grŵp mewn sefyllfaoedd brys.

Fe wnaeth eu hymchwil gynnig dealltwriaeth unigryw a arweiniodd at newidiadau cenedlaethol mewn canllawiau, polisi, hyfforddiant a gwerthuso.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Caerdydd