Gall y ffordd y mae athletwyr, hyfforddwyr a staff cymorth gwyddor chwaraeon yn paratoi'n seicolegol cyn cystadleuaeth effeithio ar ba mor dda y maent yn perfformio. Felly, mae cyrff llywodraethu cenedlaethol ar draws chwaraeon am ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu perfformwyr elitaidd  i ymdopi â gofynion digwyddiadau lefel uchel.

Aeth ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru (PDC) ati i ddarganfod arfer gorau ar gyfer hyfforddwyr, athletwyr a staff cymorth wrth baratoi cyn cystadleuaeth.

Paratoi ar gyfer cystadleuaeth

Gan weithio’n agos gydag asiantaethau’r llywodraeth, cyrff llywodraethu cenedlaethol, a darparwyr hyfforddiant ac addysg fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW), Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain, Chwaraeon Cymru, ac UK Coaching, edrychodd y tîm ymchwil ar sut mae hyfforddwyr, staff cymorth ac athletwyr yn datblygu talent ac yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth.

Roedd eu hymchwil yn canolbwyntio’n benodol ar ymarfer myfyriol a sut y gall hyn helpu unigolion i ddatblygu’r sgiliau personol a rhyngbersonol sy’n eu helpu i berfformio ar eu gorau. Buont yn edrych ar sut y gellir addysgu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer myfyriol a’u cynnwys mewn rhaglenni addysg broffesiynol mewn unrhyw sector, nid dim ond chwaraeon (fel addysg).

Archwiliodd y tîm hefyd sut y gall technegau bioadborth syml (fel ymarferion anadlu byr) helpu athletwyr i ymdopi â phwysau cystadlu mewn digwyddiadau chwaraeon mawr.

Gwella addysg

Gall cymryd rhan mewn chwaraeon helpu pobl i ddatblygu sgiliau bywyd trosglwyddadwy. Fodd bynnag, darganfu ymchwil y tîm fod y sgiliau hyn yn cael eu haddysgu ac nad ydynt yn datblygu trwy gyfranogiad yn unig.

O'r herwydd, roedd gwella technegau ac ymarfer hyfforddi i wella datblygiad personol athletwyr yn ffocws allweddol arall i waith y tîm.

Mae ymchwil y tîm wedi gwella addysg a pherfformiad hyfforddwyr, staff cymorth ac athletwyr, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac wedi chwarae rhan arwyddocaol mewn newid a gwella cymwysterau addysg broffesiynol yn sylweddol.

Er enghraifft, mae eu gwaith wedi:

  • cael ei ddefnyddio gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i greu modiwlau hyfforddi ar gyfer hyfforddwyr ar sut i adeiladu datblygiad sgiliau bywyd yn eu harferion hyfforddi yn ogystal â sut y gall hyfforddwyr ddysgu o’u profiadau trwy ymarfer myfyriol
  • cael ei ddefnyddio ar draws amrywiaeth o chwaraeon i greu adnoddau a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus sy’n helpu hyfforddwyr i ddatblygu arfer myfyriol
  • cael ei ddosbarthu i gynulleidfa fyd-eang trwy wefannau cyrff llywodraethu cenedlaethol
  • helpu nofwyr Cymru i baratoi ar gyfer y cyfnod taprog sy’n aml yn llawn straen sy’n digwydd yn y cyfnod cyn y gystadleuaeth. 

Defnyddiodd sawl hyfforddwr y dulliau seicoffisioleg a ddatblygwyd gan y tîm i baratoi athletwyr ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn 2014 a 2018, lle cafodd Tîm Cymru eu canlyniadau gorau ar lefel ryngwladol. 

Ynghyd ag academyddion cymwys eraill o bob rhan o Gymru, cydweithiodd y tîm ymchwil â Chwaraeon Cymru i ffurfio Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru, sy'n gweithredu fel cangen ymchwil Chwaraeon Cymru.

Mae eu gwaith hefyd wedi cael effaith y tu allan i chwaraeon. Defnyddiodd Coleg-y-Cymoedd – un o golegau addysg drydyddol mwyaf Cymru – ymchwil y tîm i ddylunio a gweithredu rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus staff sy’n seiliedig ar arfer myfyriol.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Brendan Cropley, yr Athro David Shearer a Ceri Bowley – Grŵp Ymchwil ac Arloesi Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Grŵp Ymchwil ac Arloesi Seicoleg Gymhwysol, Prifysgol De Cymru

Partneriaid ymchwil

Athrofa Chwaraeon Cymru, Mind Medial, Nofio Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a Choleg y Cymoedd.

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn