Mae dros 1.3 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn byw gydag effeithiau hirdymor dinistriol anafiadau caffaeledig i’r ymennydd (ABI). Mae’n effeithio ar un teulu o bob 300 ac yn costio oddeutu £15 biliwn bob blwyddyn i economi’r Deyrnas Unedig – sy’n cyfateb i 10% o gyllideb flynyddol y gwasanaeth iechyd gwladol.

Gall llawer o bethau achosi ABI, gan gynnwys damweiniau ffyrdd, strôc, cwympiadau a thiwmorau. Gall arwain at anabledd niwro-ymddygiadol (NBD), sy’n aml yn achosi newidiadau mawr i gymeriad neu bersonoliaeth unigolyn.

Mae cysylltiad rhwng NBD â chanlyniadau adsefydlu gwael a dirywiad o ran ansawdd bywyd, a gall hefyd arwain at anfanteision cymdeithasol a risg uwch o ddatblygu ymddygiad troseddol. Po fwyaf cywir y gellir asesu NBD, gorau fyth fydd y driniaeth a’r cymorth y gellir eu cynllunio, eu darparu a’u monitro ar gyfer cleifion a’u teuluoedd.

Fodd bynnag, nid oes offeryn asesu wedi bod ar gael cyn hyn y gellid dibynnu arno i adnabod NBD.

Datblygu offeryn asesu newydd ar gyfer NBD

Bu’r tîm o Brifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â Gofal Iechyd St Andrews i ddatblygu Graddfa Canlyniad Niwro-ymddygiadol St Andrews–Abertawe (SASNOS).

Canfuwyd bod y mesurau a ddefnyddiwyd yn yr offer asesu presennol yn aml yn seiliedig ar argraffiadau goddrychol yn hytrach nag arsylwadau gwrthrychol. O ganlyniad, ni allai staff gofal iechyd eu defnyddio i wneud diagnosis cywir o NBD, a chynllunio a monitro triniaeth.

Nododd y tîm ymchwil y meincnodau y byddai eu hangen ar offeryn newydd i fod yn effeithiol, a defnyddiwyd y rhain i greu’r SASNOS. Yn wahanol i offer asesu eraill, dyluniodd y tîm y SASNOS yn benodol ar gyfer anafiadau caffaeledig i’r ymennydd, ei unioni â modelau niwro-adsefydlu cyfredol, a chanolbwyntio ar fesur ymddygiad unigolyn mewn modd gwrthrychol.

Datblygodd y tîm yr offeryn gan ddefnyddio dosbarthiadau a gydnabyddir yn rhyngwladol, cyfweliadau â pherthnasau cleifion ABI, a threialon gyda chymysgedd amlddisgyblaethol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Profwyd bod yr offeryn yn cofnodi symptomau canfyddedig NBD ac yn gwahaniaethu rhwng unigolion ag ABI a rhai heb ABI. Sicrhaodd datblygiadau pellach fod yr offeryn yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ymatebol, ac felly’n bodloni meini prawf seicometrig hanfodol.

Gwell gofal i gleifion

Mae’r SASNOS, a ddefnyddir yn rhyngwladol, wedi gwella arferion clinigol ac wedi arwain at well gofal i gleifion. Mae’n galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ganfod NBD yn ddibynadwy ar ôl ABI, nodi anghenion y cleifion, cynllunio eu triniaeth, a monitro newid. Mae darparwyr niwro-adsefydlu mawr wedi integreiddio’r offeryn i’w cofnodion cleifion electronig ac yn ei ddefnyddio i ddarparu dangosyddion perfformiad lefel gwasanaeth. O ganlyniad, caiff penderfyniadau clinigol bellach eu llywio gan offeryn dibynadwy yn hytrach na barn glinigol yn unig.

Defnyddir y SASNOS hefyd mewn arferion meddygol-gyfreithiol ar gyfer ymgyfreitha anafiadau personol ac esgeulustod clinigol, lle mae o gymorth i hysbysu’r llysoedd am effaith NBD. Mae wedi cael ei ddefnyddio hefyd i fesur canlyniadau allweddol mewn ymchwil ac archwiliadau clinigol yn Awstralia, Denmarc, a Bangladesh.

Mae’r SASNOS ar gael i’w ddefnyddio yn rhad ac am ddim ac mewn saith iaith.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Cyswllt Claire Williams, yr Athro Emeritws Roger Ll Wood, yr Athro Er Anrhydedd Nick Alderman – Prifysgol Abertawe

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn