Ers 2015, mae bron i 1,500 o ymfudwyr wedi cael eu hailgartrefu yng Nghymru fel rhan o fentrau fel y Cynllun Adsefydlu Pobl Ddiamddiffyn o Syria. Mae hyn yn ychwanegol at y bobl sydd wedi'u gwasgaru i Gymru sydd wedi ceisio lloches yn y DU. Er enghraifft, yn 2020, cafodd bron i 3,000 o bobl oedd yn ceisio noddfa eu cartrefu ar draws Abertawe, Casnewydd, Caerdydd a Wrecsam. Ar ben hynny, ers dechrau'r rhyfel, mae dros 3000 o ffoaduriaid o Wcráin wedi cyrraedd Cymru.

Mae angen sgiliau Saesneg ar bob un o'r ymfudwyr dan orfod hyn i integreiddio i'w cymunedau newydd.  Mae sgiliau Saesneg yn hanfodol i helpu pobl i gael mynediad at waith ac addysg, ac i ddatblygu cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn. Fodd bynnag, mae toriadau i gyllidebau addysg oedolion yn golygu bod mynediad i ddosbarthiadau iaith priodol yn aml yn anodd gyda llawer yn wynebu aros yn hir neu ddim ond yn cael cynnig ychydig oriau o ddosbarthiadau Saesneg (ESOL) bob wythnos.

Mae Dr Mike Chick o Brifysgol De Cymru wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau allanol megis Cyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC) ac Oasis yng Nghaerdydd, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, i nodi sut y gall dosbarthiadau iaith gael eu trefnu’n fwy effeithiol a’u haddasu’n well i anghenion bywyd go iawn y rhai sy’n dymuno ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru A hynny o fewn terfynau cyllidebau addysg oedolion.

Mae ymchwil Dr Chick yn amlygu gwerth dull cyfranogol at wersi ESOL, lle mae dysgwyr yn dod â’u syniadau a’u diddordebau, ac mae’r ystafell ddosbarth yn lle digymell, yn llawn cyfleoedd dysgu a chyfleoedd i’r myfyrwyr ddysgu mwy am eu cymuned newydd.

Mae Dr Chick yn dadlau, ar gyfer gwersi iaith effeithiol, fod angen penodol am:

  • addysgu sydd wedi'i deilwra i anghenion grwpiau penodol o bobl
  • dosbarthiadau iaith anffurfiol sy'n mynd i'r afael ag anghenion dyddiol ymarferol mudwyr
  • mwy o ddosbarthiadau a gwell mynediad i ddosbarthiadau.

Gwella mynediad i ddosbarthiadau Saesneg

Mae ymchwil Dr Mike Chick wedi arwain at welliannau yn y ddarpariaeth o wersi Saesneg ar gyfer ymfudwyr dan orfod. Mae wedi cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru, ac wedi helpu pobl sydd wedi’u dadleoli yng Nghymru i gael addysg iaith sydd wedi’i theilwra’n agosach i’w hanghenion fel ffoaduriaid mewn cymuned newydd.

Mae ei waith hefyd wedi llywio dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o anghenion ieithyddol mewnfudwyr, ac yn ddiweddar arweiniodd adolygiad o Bolisi ESOL Llywodraeth Cymru (2023). 

Cynllun Ysgoloriaeth Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Arweiniodd gwaith Dr Chick hefyd at lansio Cynllun Ysgoloriaethau Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Prifysgol De Cymru. Mae'r cynllun yn darparu ysgoloriaethau ar gyfer pedwar ceisiwr lloches bob blwyddyn ac mae hefyd yn cynnwys hyfforddiant Saesneg am ddim i fyfyrwyr cymwys sy'n ffoaduriaid cyn iddynt ddechrau gradd israddedig yn y brifysgol. Ym mis Mehefin 2019, penodwyd Dr Chick yn hyrwyddwr ffoaduriaid i'r brifysgol, rôl sy'n caniatáu iddo gyflwyno mentrau pellach i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches. 

Cyfrannodd y mentrau a’r rolau hyn at ddyfarnu statws Prifysgol Noddfa i Brifysgol De Cymru yn 2020.

Y tîm ymchwil

Dr Mike Chick – Grŵp Ymchwil ac Arloesedd y Dyniaethau, Prifysgol De Cymru

Partneriaid ymchwil

Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn