Pan fydd plant ifanc yn cael gofal o ansawdd uchel mewn amgylchedd cefnogol, maent yn fwy tebygol o ffynnu yn gorfforol, yn feddyliol, yn addysgol ac, yn y tymor hir, yn economaidd.

Ac eto mae gan filiynau o blant mewn gwledydd incwm isel a chanolig (LMIC) gyfleoedd dysgu gwael ac maent yn cael eu cosbi’n llym gan eu gofalwyr. Er enghraifft, mae trais yn erbyn plant yn gyffredin yn Jamaica. Dros ddau ddiwrnod o arsylwi ystafell ddosbarth, gwelwyd bod 86% o athrawon cyn-ysgol a 100% o athrawon ysgol gynradd gradd un yn defnyddio trais o leiaf unwaith.

Mae diffyg addysg a niwed corfforol yn ffactorau risg pwysig ar gyfer datblygiad gwael plentyn. 

Datblygu rhaglenni newydd

Gan dynnu ar ei phrofiad blaenorol o hyfforddi athrawon plentyndod cynnar, aeth yr Athro Baker-Henningham o Brifysgol Bangor ati i greu dwy raglen newydd a gynlluniwyd i wella canlyniadau plant ifanc mewn gwledydd incwm isel a chanolig:

  • Pecyn Cymorth Ystafell Ddosbarth Irie – rhaglen atal trais
  • Anelu'n Uchel a Dysgu – rhaglen grŵp i rieni plant 0-3 oed

Nod Pecyn Ystafell Ddosbarth Irie yw lleihau trais yn erbyn plant trwy hyfforddi athrawon i ddefnyddio strategaethau rheoli ymddygiad priodol. Gweithiodd yr Athro Baker-Henningham gyda Phrifysgol India'r Gorllewin i dreialu'r rhaglen mewn sefydliadau cyn-ysgol ac ysgolion cynradd Jamaica.

Nod Anelu’n Uchel a Dysgu yw helpu rhieni i greu amgylchedd cadarnhaol lle gall eu plant chwarae a dysgu. Mae’r rhaglen wedi cael ei rhoi ar waith ym Mrasil, Zimbabwe, Colombia a Bangladesh. Mae mwy na 420 o weithwyr iechyd y llywodraeth yn Colombia a Bangladesh wedi derbyn hyfforddiant i gyflenwi’r rhaglen, a chymerodd dros 4,000 o famau a phlant ran yn ystod treialon.

Mae’r Athro Baker-Henningham hefyd wedi gweithio gyda’r Pwyllgor Achub Rhyngwladol, sefydliad anllywodraethol sy’n ymateb i argyfyngau dyngarol gwaethaf y byd, i addasu’r rhaglen Anelu'n Uchel a Dysgu i’w defnyddio gyda theuluoedd ffoaduriaid ar draws y Dwyrain Canol.

Gwella canlyniadau i blant

Mae'r ddwy raglen wedi dod â manteision amlwg i blant.

Cafodd Pecyn Cymorth Ystafell Ddosbarth IRIE ei ddefnyddio gyda dros 6,000 o blant ar draws Jamaica. Yn y sefydliadau lle cafodd y rhaglen ei chyflwyno:

  • gwelwyd gostyngiad o 65% mewn trais yn erbyn plant
  • roedd ymddygiad plant wedi gwella
  • roedd llesiant athrawon wedi gwella
  • datblygodd plant sgiliau dysgu gwell
  • cynyddodd cyrhaeddiad yr ysgol.

Mae'r rhaglen bellach wedi'i mabwysiadu gan Gomisiwn Plentyndod Cynnar llywodraeth Jamaica fel y rhaglen hyfforddi genedlaethol i hyfforddi holl ymarferwyr plentyndod cynnar. Mae hefyd wedi'i chynnwys fel enghraifft o raglen hyfforddi athrawon effeithiol mewn disgyblaeth gadarnhaol gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae rhaglen rianta Anelu'n Uchel a Dysgu hefyd wedi arwain at fanteision sylweddol i ddatblygiad plant, gan gynnwys:

  • gwella sgiliau gwybyddol, iaith, echddygol a rheoli ymddygiad
  • gwella ysgogiad plant yn y cartref
  • gostyngiad mewn iselder ymhlith mamau.

Yn Colombia, dywedodd 99% o’r mamau a gymerodd ran eu bod yn dal i ddefnyddio’r rhaglen yn y cartref, ac mae maer Bogota, prifddinas Colombia, wedi mabwysiadu’r rhaglen i’w defnyddio gyda theuluoedd bregus ledled y ddinas.

Yn Bangladesh, mabwysiadwyd y rhaglen i'w defnyddio yn rhwydwaith y wlad o 13,000 o glinigau cymunedol gwledig tra, yn Ecwador, mae wedi'i chynnwys yng ngwasanaethau cenedlaethol y llywodraeth ar gyfer plant ifanc a theuluoedd.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Helen Baker-Henningham – Prifysgol Bangor

Partneriaid ymchwil

Prifysgol India'r Gorllewin, Jamaica

Canolfan Ryngwladol ar gyfer Ymchwil i Glefydau Dolur Rhydd, Bangladesh

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn