Mae atal ac ymchwilio i lofruddiaeth yn fwy heriol nag erioed.

Mae maint a chymhlethdod data digidol, cydweithio gwael rhwng asiantaethau, a thwf cyflym mewn rhai mathau o lofruddiaeth (e.e. yn ymwneud â chyllyll a gangiau) oll yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr heddlu a gwasanaethau eraill. Yn ogystal, er bod gwyddoniaeth fforensig yn cael ei defnyddio’n eang mewn ymchwiliadau i ddynladdiad, ychydig a wyddys am sut mae’n effeithio ar ganlyniadau cyfiawnder troseddol.

Ceisiodd tîm o Brifysgol De Cymru, dan arweiniad yr Athro Fiona Brookman, ddarparu atebion yn seiliedig ar dystiolaeth i'r heriau hyn. Arweiniodd yr Athro Brookman yr astudiaeth ethnograffig gyntaf ym Mhrydain o rôl y gwyddorau a thechnolegau fforensig (FSTs) mewn ymchwiliadau i ddynladdiad (prosiect Ymchwilio i Ddynladdiad a Gwyddoniaeth Fforensig, HIFS).  

Dod o hyd i atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Darparodd prosiect HIFS fewnwelediadau newydd i sut mae ditectifs, erlynwyr a gwyddonwyr fforensig yn defnyddio’r gwyddorau a thechnolegau fforensig i ymchwilio i achosion ac erlyn pobl a ddrwgdybir. Yn nodedig, mae HIFS wedi dangos cymhlethdodau adfer a defnyddio tystiolaeth teledu cylch cyfyng a sut y gall arferion peryglus danseilio ei ddibynadwyedd yn y llys.

Datgelodd canfyddiadau HIFS hefyd fod deialog yn allweddol i ddeall ac ail-greu digwyddiadau dynladdiad yn ystod ymchwiliadau. Fodd bynnag, mae rhai practisau yn cyfyngu ar ddeialog effeithiol rhwng ditectifs, erlynwyr, gwyddonwyr fforensig ac arbenigwyr eraill, a all olygu nad yw achosion yn cael eu hymchwilio a'u datrys yn briodol. 

Gwella ymchwiliadau i lofruddiaeth

Mae ymchwil y tîm wedi llywio polisi ac ymarfer yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan helpu'r heddlu, gwyddonwyr fforensig, ymarferwyr fforensig digidol, a llunwyr polisi atal ac ymchwilio i lofruddiaethau yn fwy effeithiol, a gwella cydweithio rhwng asiantaethau.

Mae’r Athro Brookman wedi helpu’r Swyddfa Gartref a rhanddeiliaid allweddol i ddylunio strategaethau i leihau ac atal llofruddiaeth ac mae’r tîm hefyd wedi gweithio gyda Chyfarwyddiaeth Data a Hunaniaeth y Swyddfa Gartref i ddatblygu metrigau i fesur effaith gwyddoniaeth fforensig ar ganlyniadau cyfiawnder troseddol.

Mae ymchwil PDC wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ddatblygiad diffiniad yr NPCC o wyddoniaeth fforensig ddigidol a'r Strategaeth Gwyddoniaeth Fforensig Ddigidol.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Fiona Brookman a Dr Helen Jones – Grŵp Ymchwil ac Arloesi Troseddeg, Plismona a Diogelwch, Prifysgol De Cymru

Partneriaid ymchwil

Yr Athro Robin Williams a'r Athro Jim Fraser

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn