Amcangyfrifir bod dementia ar fwy na 900,000 o bobl yn y DU. Erbyn 2030, disgwylir i'r ffigur hwn godi i dros 1.2 miliwn.

Wrth i'r clefyd ddatblygu, mae pobl â dementia yn dod yn llai actif yn raddol ac yn colli eu galluedd meddyliol. Dros amser, gan eu bod yn ei chael yn anoddach cyfathrebu'r hyn y maent ei eisiau, gallant fynd yn encilgar ac yn ynysig. 

Ychydig iawn o ddeallwyd cyn hyn am sut y gallai'r diwydiant dylunio helpu i ddiwallu anghenion gofal cymhleth pobl yng nghamau datblygedig dementia a'u helpu i gynnal rhywfaint o ansawdd bywyd.

Gan adeiladu ar ymchwil flaenorol, edrychodd y prosiect hwn ar sut y gall cynhyrchion chwareus, creadigol, sy’n cynnwys defnydd llaw a chyffyrddiad fod o fudd i lesiant pobl â dementia.

Gwella llesiant ac ansawdd bywyd

Datblygodd a phrofodd y tîm ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ddyluniadau prototeip ar gyfer chwe gwrthrych, pob un wedi’i greu ar gyfer unigolyn penodol â dementia datblygedig. Dangosodd eu hymchwil y gallai'r gwrthrychau hyn helpu gyda gofal pobl, gwella eu hwyliau a chael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a'u llesiant.

Gwnaethpwyd un gwrthrych, HUG™ (gwrthrych breichiau hir, tebyg i glustog, sy'n cynnwys calon yn curo ac sy’n chwarae cerddoriaeth) i Thelma – a chafodd effaith arbennig o arwyddocaol ar ei llesiant. Dywedodd ei gofalwyr proffesiynol ei fod wedi trawsnewid ac ymestyn ei bywyd.

Yn 2018, dyfarnwyd cyllid i’r tîm werthuso sut yr effeithiodd HUG™ ar 20 o bobl â dementia datblygedig sy’n byw mewn cartref gofal. Canfu’r treial fod 87% o gleifion dementia a ddefnyddiodd HUG™ am chwe mis wedi cynyddu eu gallu gweithredol a gwybyddol a chafwyd gwelliant yn eu llesiant.

Ers hynny mae treial pellach wedi'i gynnal gydag 20 o gleifion ysbyty'r GIG mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Mae ymchwil y tîm wedi cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd pobl â dementia datblygedig. Mae’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth wedi’i gynnwys ar ei wefan fel enghraifft o arfer da ar gyfer y diwydiant gofal.

Dylunio Tosturiol

Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r tîm ymchwil, ysgrifennodd yr Athro Treadaway Dylunio Tosturiol, pecyn cymorth i helpu dylunwyr i ddeall anghenion pobl â dementia datblygedig. Mae methodoleg Dylunio Tosturiol bellach yn cael ei haddysgu i fyfyrwyr dylunio a myfyrwyr rhyngweithio dynol-cyfrifiadurol ym mhrifysgolion yng Nghymru, Lloegr ac Awstralia. Mae Alzheimer's UK a Care England hefyd wedi ei hyrwyddo.

HUG™

Ym mis Hydref 2019, cynhyrchodd y BBC ffilm fer am HUG™. Dri diwrnod ar ôl y darllediad, roedd wedi’i rannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol a bu ymholiadau ynglŷn â phrynu HUG™ gan aelodau’r cyhoedd, byrddau iechyd, cartrefi gofal ac o wledydd mor bell i ffwrdd â Gwlad yr Iâ, De Affrica ac Awstralia. Derbyniwyd ceisiadau am wybodaeth hefyd gan bobl sy'n byw gyda chyflyrau eraill fel awtistiaeth, blinder cronig ac iselder. 

Mae'r llwyddiant hwn wedi arwain at HUG™ yn cael ei ragnodi ar y GIG, a lansio cwmni deillio, HUG gan LAUGH, i gynhyrchu a gwerthu HUG™.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Cathy Treadaway, Dr Jac Fennel, yr Athro Andrew Walters ac Aidan Taylor – Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Partneriaid ymchwil

Prifysgol Dinas Birmingham, Prifysgol Cofentri, Prifysgol Technoleg Sydney a Tai Gwalia (Pobl bellach).

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn