Caiff cyflyrau niwroddatblygiadol eu diffinio fel unrhyw anhwylder neu anabledd sy'n effeithio ar yr ymennydd. Gallant gael eu hachosi gan salwch, geneteg neu anaf, ac maent yn cynnwys (ond ddim yn gyfyngedig i) awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), syndrom down, anableddau dysgu, parlys yr ymennydd, epilepsi ac oedi datblygiadol.

Mae oddeutu hanner miliwn o blant a phobl ifanc yn y DU yn anabl, a’r rhai â chyflyrau'r ymennydd yw’r grŵp mwyaf o’r rheini. Mae gan lawer o blant ag anabledd anghenion cymorth cymhleth, a gaiff eu gwaethygu yn achos plant â chyflyrau’r ymennydd gan eu bod yn aml yn wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau y mae eu cyfoedion, sy’n datblygu mewn modd nodweddiadol, yn eu cymryd yn ganiataol.

Mae Canolfan Arloesi Cerebra ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn fenter gydweithredol rhwng y brifysgol a’r elusen genedlaethol Cerebra. Mae tîm Canolfan Arloesi Cerebra yn ymateb i geisiadau gan deuluoedd i ymchwilio a datblygu cymhorthion a fydd yn gwella ansawdd bywyd eu plant ac yn caniatáu iddynt fwynhau mwy o annibyniaeth.

Pan fydd tîm Canolfan Arloesi Cerebra yn derbyn cais gan riant, maent yn ymchwilio i'r farchnad yn gyntaf i weld p'un a oes cynnyrch ar gael a all helpu. Os nad oes cynnyrch ar gael, ac os yw o fewn gallu Canolfan Arloesi Cerebra, maent yn dylunio cymhorthion pwrpasol ar gyfer y plentyn.

Sedd Goto

Cynlluniwyd sedd Goto yn wreiddiol ar ôl i riant ofyn am help i fynd â'u plentyn i'r archfarchnad. Ni allai'r plentyn eistedd i fyny heb gymorth, ac ni allai'r rhiant wthio cadair olwyn arbenigol a throli archfarchnad ar yr un pryd.

Dyluniodd ac adeiladodd y tîm sedd brototeip a allai wneud y canlynol:

  • roedd yn cefnogi ochr y corff a rheolaeth y pen
  • roedd yn hyblyg ac yn hawdd i'w defnyddio
  • dim ond un oedolyn oedd ei angen i'w gosod
  • roedd yn gludadwy a gellid ei gosod ar amrywiaeth o ddyfeisiau.

Profwyd sawl fersiwn gyda'r plentyn. Mae'r dyluniad terfynol yn sedd gefnogol ar gyfer plant anabl sy'n rhoi'r cyfle iddynt chwarae, ymarfer corff a rhyngweithio fel y gallant fwynhau gwell cynhwysiant cymdeithasol.

Sedd Scooot

Cynlluniwyd y Sedd Scooot er mwyn galluogi plant rhwng dyflwydd a chwe mlwydd oed sydd â pharlys yr ymennydd i symud yn fwy annibynnol. Yn wahanol i gadair olwyn arferol, gall plant yrru'r sedd eu hunain. Mae'r dyluniad yn cynnwys cefn i'r sedd, olwynion sy'n addas i blant a dalwyr dwylo diogel er mwyn lleihau'r siawns y bydd plant yn dal eu dwylo rhyngddi â dodrefn.

Oherwydd eu llwyddiant, mae Sedd Goto a Sedd Scooot bellach yn cael eu cynhyrchu’n fasnachol trwy drefniadau trwyddedu gyda Firefly gan Leckey. Mae 13,000 o Seddi Goto a 5,500 o Seddi Scooot wedi’u gwerthu mewn dros 50 o wledydd.

Gwella bywydau plant

Mae teuluoedd, grwpiau, canolfannau therapi, ysgolion ac ysbytai plant wedi prynu seddi Goto. Ac mae 12 cadwyn archfarchnad yn y DU, Ewrop ac UDA wedi prynu 3,500 o Goto Shops – sef troli wedi'i haddasu gyda sedd Goto wedi'i gosod arni. Gall teuluoedd ddefnyddio ap Goto i ddod o hyd i archfarchnad gyfagos sydd â Goto Shop.

Mae teuluoedd hefyd yn defnyddio seddi Goto ar siglenni mewn parc, ar deganau reidio, ar gaiacau, ar seddi awyrennau, mewn caffis ac ar draethau. Mae'r sedd yn caniatáu i blant ag anghenion eistedd cymhleth ymuno â gweithgareddau na fyddent wedi gallu eu gwneud o'r blaen.

Mae sedd Scooot yn rhoi'r rhyddid i blant ifanc â pharlys yr ymennydd archwilio'u cartref, chwarae gyda ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau y mae plant eraill yn eu mwynhau yn rheolaidd heb gymorth. Mae hyn yn eu helpu i ddatblygu eu gallu corfforol, gwybyddol a synhwyraidd. Mae hefyd yn cyfrannu at raglenni therapi mewn ffordd hwyliog ac ymarferol.

Y tîm ymchwil

Dr Ross Head, rheolwr dylunio Canolfan Arloesedd Cerebra ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn