Mae'r fideo yn cynnwys cyfweliadau â staff o amrywiaeth o golegau addysg bellach Cymru. Mae’n amlygu’r ystod o gyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael i fyfyrwyr yng ngholegau Cymru, gan gynnwys trefniadau cyfnewid myfyrwyr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru Fyd-eang wedi bod yn gweithio’n agos gyda cholegau addysg bellach Cymru a CholegauCymru i gefnogi eu gweithgareddau a’u partneriaethau rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys darparu cyllid ar gyfer prosiectau a mentrau rhyngwladol, yn ogystal â hwyluso dirprwyaethau.

Wrth siarad am y fideo newydd, dywedodd Dr Andrew Cornish, Prif Weithredwr a Phennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion:

“Mae gan Gymru sector addysg bellach a sgiliau sy’n ffynnu, gyda phedwar o’n colegau’n recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, a diddordeb ar draws y sector mewn adeiladu partneriaethau ar gyfer cydweithio. Mae'r fideo newydd hwn yn amlygu rhagolygon byd-eang colegau a manteision partneriaethau rhyngwladol a symudedd dysgwyr.

“Rwy’n falch o weld deilliannau parhaus gwaith Cymru Fyd-eang yn cefnogi colegau addysg bellach Cymru i ddatblygu eu gweithgareddau a’u partneriaethau rhyngwladol. Rydym am sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru’n cael y cyfle i brofi manteision dysgu rhyngwladol, boed hynny drwy deithio dramor neu elwa ar bartneriaethau."

Gallwch wylio'r fideo isod:

Manteision partneriaethau rhyngwladol a symudedd myfyrwyr

Mae partneriaethau rhyngwladol a symudedd myfyrwyr yn cynnig ystod o fanteision i fyfyrwyr a cholegau.

I ddysgwyr, gall profiadau rhyngwladol helpu i:

  • Ehangu eu gorwelion a dysgu am ddiwylliannau newydd
  • Datblygu eu sgiliau iaith
  • Ennill profiad rhyngwladol gwerthfawr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol
  • Adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau rhyngwladol

 

I golegau, gall profiadau rhyngwladol helpu i:

  • Codi eu proffil a'u henw da ar y llwyfan rhyngwladol
  • Denu myfyrwyr a staff rhyngwladol
  • Datblygu adnoddau addysgu a dysgu newydd
  • Gwella profiadau pob myfyriwr