Mae cyllid o hyd at £20,000 y prosiect ar gael drwy raglen Cymru Fyd-eang a ariennir gan CCAUC, i gefnogi gweithgarwch adeiladu partneriaethau academaidd rhwng sefydliadau yng Nghymru a’r Wcráin.

Mae hyn yn adeiladu ar gyllido blaenorol a ddarparwyd gan Gymru Fyd-eang i gefnogi partneriaethau a ffurfiwyd drwy gynllun gefeillio’r DU gyfan gyda phrifysgolion yn yr Wcráin. Mae'r cynllun wedi'i sefydlu i gefnogi prifysgolion, staff a myfyrwyr yn yr Wcráin y mae’r rhyfel wedi amharu ar eu gweithrediadau o ddydd i ddydd.

Cydlynir y cynllun gefeillio gan Cormack Consultancy Group (CCG) gyda chefnogaeth adran Ryngwladol Prifysgolion y DU (UUKi), gan dynnu ar arbenigedd pob grŵp yn anghenion sefydliadau’r Wcráin a gweithgareddau allgymorth rhyngwladol prifysgolion y DU.

Mae’r prifysgolion yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn y cynllun hyd yma yn cynnwys Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol Caerdydd, sydd hefyd ag ail bartneriaeth ar waith drwy ei Hysgol Feddygaeth.

Bydd y partneriaethau a gefnogir drwy'r rownd ddiweddaraf hon o gyllido gan Gymru Fyd-eang yn debygol ofod, ond nid o reidrwydd, yn rhai a sefydlwyd drwy gynllun gefeillio Charles Cormack.

Gwahoddir prifysgolion i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i dîm Cymru Fyd-eang erbyn dydd Llun 3ydd Ebrill.

Meddai’r Athro Cara Aitchison, Cadeirydd Grŵp Sector ar yr Wcráin:

“Rwy’n falch bod Cymru Fyd-eang, drwy CCAUC, yn darparu cyllid i gefnogi ymhellach adeiladu partneriaethau rhwng prifysgolion Cymru a’r Wcráin.

“Mae’r partneriaethau hyn yn dyst i’r cymunedau byd-eang yr ydym yn byw ynddynt a’n gwerthoedd ar y cyd o ran ceisio gwybodaeth a syniadau, a’r rôl y mae addysg uwch yn ei chwarae ar draws cymdeithas.

“Drwy ddarparu cefnogaeth ac adnoddau gallwn sicrhau bod prifysgolion yr Wcráin nid yn unig yn goroesi ond yn dod allan yn gryfach o’r rhyfel, gan ganiatáu iddynt chwarae rhan hanfodol yn y gwaith ailadeiladu ar ôl i’r rhyfel ddod i ben.”