Roedd yn bleser gan Gymru Fyd-eang gael croesawu WE-Hub (Hyb Entrepreneuriaeth Menywod) am ymweliad deuddydd â Chymru ym mis Tachwedd. WE Hub yw asiantaeth anogi busnesau newydd cyntaf India ar gyfer entrepreneuriaid sy’n fenywod. Ei nod yw cynnig cefnogaeth i fusnesau newydd ac entrepreneuriaid dan arweiniad menywod o bob rhan o India, a hyrwyddo Hyderabad fel cyrchfan i arweinwyr busnes benywaidd ledled y wlad.

Yn dilyn gwaith llwyddiannus a chytundebau gyda T-Hub, roedd Cymru Fyd-eang yn teimlo’n gyffrous i gael y cyfle i gefnogi entrepreneuriaid sy’n fenywod drwy feithrin cysylltiadau yn y maes hwn rhwng Telangana a Chymru.

O WE Hub, roedd ein hymwelwyr yn cynnwys Deepthi Ravula, Prif Weithredwr WE Hub; Sruthi Kande, Arweinydd Strategaeth Sefydliad WE Hub; a Tajdar Ali, Cymrawd, WE Hub.

Ar ddiwrnod cyntaf yr ymweliad, ymwelodd WE Hub â menter Cyflymu Entrepreneuriaeth NatWest, yn ogystal â chyfarfod â ChwaraeTeg, elusen o Gaerdydd sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant i fenywod. Yna cynhaliwyd cyfarfod bwrdd-crwn i drafod entrepreneuriaeth dan arweiniad sylfaenwyr Tramshed Tech, Louise Harris a Mark John. Ymysg y rhai a gyfranogodd roedd entrepreneuriaid benywaidd ysbrydoledig o Gymru sy’n gweithio ym meysydd argraffu 3D, technoleg addysg, seiber, technoleg iechyd a thechnoleg ariannol, ynghyd ag entrepreneuriaid benywaidd sy’n gysylltiedig â WE-Hub.

Yn ystod yr ymweliad, bu Cymru Fyd-eang o gymorth i’r broses o lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng WE Hub a Tramshed Tech, sydd â’r nod o gefnogi’r gwaith o greu a gweithredu rhaglenni entrepreneuriaeth ar y cyd, cynyddu hygyrchedd i rwydweithiau a sefydlu hyb glanio-esmwyth ar gyfer entrepreneuriaid benywaidd o Gymru a Telangana.

Daeth y diwrnod cyntaf i ben gydag ymweliad â Spark ym Mhrifysgol Caerdydd, sef lleoliad ar gyfer annog gwyddorau cymdeithasol ar Gampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd.

Dechreuodd ail ddiwrnod ymweliad WE Hub gyda thrafodaeth â Rhwydwaith Menywod Cymru mewn STEM, gan gynnwys cynrychiolwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’r Prosiect Mentora Ffiseg, i egluro sut y cefnogir addysg pynciau STEM mewn addysg bellach ac uwch, yn enwedig yng nghyd-destun annog arloesi ac entrepreneuriaeth.

Dilynwyd hyn gan drafodaeth ar ymgysylltu â chynrychiolwyr o’r sectorau ysgolion ac addysg bellach yng Nghymru i archwilio cyfleoedd symudedd myfyrwyr a phartneriaethau WE Hub ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch sy’n astudio pynciau STEM. Yn ymuno â’r drafodaeth hon roedd cynrychiolwyr o Taith, Ysgol Uwchradd Caerdydd, ColegauCymru, a Grŵp Colegau NPTC. 

Arweiniwyd cyfarfod olaf yr ymweliad gan yr Athro Dylan Jones-Evans OBE, sylfaenydd y Gwobrau Cenedlaethol i Fusnesau Newydd, y mae Prifysgolion Cymru wedi bod yn falch o’u cefnogi dros nifer o flynyddoedd. Yn ymuno â'r drafodaeth hon roedd dau fusnes newydd a sefydlwyd gan raddedigion drwy anogaeth Startup Stiwdio ym Mhrifysgol De Cymru - Eegai Productions a Team Mazi - y naill a’r llall dan arweiniad graddedigion benywaidd o Brifysgol De Cymru.

Hoffai Cymru Fyd-eang ddiolch i’r holl bartneriaid a chydweithwyr a helpodd i wneud yr ymweliad hwn gan WE Hub yn llwyddiant ysgubol, ac a’n croesawodd ni a’n gwesteion yn ystod yr ymweliad.