Group of people at edge of a lake with mountains in the background

Roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Talaith Telangana, Cyngor Addysg Uwch Talaith Telangana (TSCHE), Prifysgol Kakatiya, Prifysgol Hyderabad a Phrifysgol Osmania.

Cyn eu hymweliadau â phrifysgolion yng Nghymru, bu’r ddirprwyaeth ar daith dywysedig o amgylch Ynys Môn ac Eryri i’w cyflwyno i harddwch eithriadol Cymru ac i ddeall diwylliant y wlad yn well.

Roedd y daith yn cynnwys ymweliadau â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, lle cafodd cynrychiolwyr eu tywys o amgylch campysau a chyfleusterau sy’n cynnal ymchwil o'r radd flaenaf.

Cyfarfu’r cynrychiolwyr hefyd ag academyddion allweddol a fynegodd ddiddordeb ar y cyd mewn cydweithrediadau ymchwil ar gyfer prifysgolion y dalaith a’r dalaith yn ehangach, yn ogystal â chyfarfod â myfyrwyr Ysgoloriaeth Telangana y Cyngor Prydeinig i glywed eu barn ynghylch astudio yng Nghymru.

Disgrifiodd aelodau’r ddirprwyaeth y daith fel “agoriad llygad” gan ganmol y cyfleoedd i gynnal ymchwil ar y cyd a chynnig symudedd i fyfyrwyr a staff rhwng Cymru a Telangana.

Telangana delegation sitting in a conference room behind a long table

Roedd yr ymweliadau â’r prifysgolion yng Nghymru’n gyfle i dynnu sylw at feysydd ymchwil a oedd yn cyd-fynd â’r hyn a gynigir gan bob prifysgol yn Telangana; nododd y cynrychiolwyr fod meysydd fel seiberddiogelwch, biotechnoleg, cemeg economi gylchol, deunyddiau clyfar, clefydau heintus ac ymyriadau oll yn feysydd lle gellid cydweithredu arnynt.

Mae'r ymweliadau hyn yn gyfle hollbwysig i dynnu sylw at Gymru a'r sector addysg uwch Gymreig fel partner byd-eang allweddol ar gyfer sector addysg India, yn ogystal â hwyluso meithrin cysylltiadau rhwng sefydliadau ar gyfer partneriaethau yn y dyfodol.

Roedd y cynrychiolwyr yn hynod gadarnhaol am eu hymweliad gan ddweud:

“Mae diwylliant Cymru’n debyg iawn i ddiwylliant India, mae’r system Gymreig yn gyfeillgar a chroesawgar iawn; rydym yn teimlo y byddai ein myfyrwyr yn gyfforddus iawn yn dod yma.”

“Mae’r ymweliad hwn yn gam enfawr o ran datblygu cysylltiadau addysg rhwng India a Chymru, diolch i Gymru Fyd-eang.”

Wrth fyfyrio ar yr ymweliad, meddai Harish Lokhun “Mae hwn wedi bod yn ymweliad hynod lwyddiannus i’r cynrychiolwyr ac i aelodau ein prifysgolion. Hoffem ddiolch i bawb ar draws y sector addysg yng Nghymru am eu cymorth i gynnal yr ymweliad llwyddiannus hwn, ac am helpu i roi llwyfan i Gymru fel lle unigryw i astudio ynddo.”