Ymgyrch newydd yn arddangos pŵer trawsnewidiol addysg uwch
Mae Prifysgolion Cymru yn galw ar bobl i rannu sut mae mynd i’r brifysgol wedi newid eu bywyd mewn ymgyrch newydd i ddathlu pŵer trawsnewidiol addysg uwch.
26 March 2024
Mae Trawsnewid Bywydau, a lansiwyd heddiw, yn rhannu straeon ysbrydoledig am raddedigion prifysgol y mae eu bywydau wedi’u newid yn sylweddol yn sgil eu taith addysgol.
Gall astudio yn y brifysgol fod ymhlith y profiadau mwyaf pleserus a gwerth chweil ym mywyd person, gyda manteision o ran datblygu sgiliau, meithrin gwybodaeth, ffurfio cyfeillgarwch newydd, a byw'n annibynnol. Mae gradd o brifysgol yn y DU hefyd yn parhau i roi hwb sylweddol i gyflog, lefelau cyflogaeth a rhagolygon gyrfa graddedigion gydol eu hoes.
Fodd bynnag, y tu ôl i'r ystadegau mae pobl go iawn y mae eu bywydau wedi newid er gwell o ganlyniad i fynd i'r brifysgol. A’r bobl hyn y mae Prifysgolion Cymru am roi sylw penodol iddyn nhw, gan rannu straeon am raddedigion sydd wedi goresgyn heriau, wedi darganfod eu hangerdd, ac wedi dod o hyd i’r hyder i gyflawni eu potensial.
Stori Rebecca
Graddiodd Rebecca, y gyntaf o'i theulu i fynd i addysg uwch, o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda MDes mewn Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Trwy’r brifysgol fe sicrhaodd interniaeth â thâl gyda Rolls-Royce fel rhan o dîm dylunio unigryw’r cwmni, a arweiniodd yn y pen draw at ei rôl bresennol fel Dylunydd Arbenigol gyda’r cwmni. Mae Rebecca yn canmol y brifysgol am ei galluogi i ddilyn gyrfa greadigol.
“Cynigiodd y brifysgol ystod eang o wahanol gyfleoedd a newidiodd fy llwybr gyrfa yn llwyr”.
Stori Rhys
Ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed heb unrhyw gymwysterau ffurfiol, aeth Rhys ymlaen i gyflawni BSc, MPhil a PhD o Brifysgol Caerdydd. Mae e bellach yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Caerdydd. O ganlyniad i’w amser yn y brifysgol, mae Rhys wedi teithio’r byd, wedi cyflwyno ei gyfres deledu ei hun, wedi dod yn awdur llwyddiannus, ac wedi gweithio ochr-yn-ochr â Syr David Attenborough ar gyfres gyntaf Planet Earth y BBC.
Wrth sôn am ei brofiadau yn y brifysgol, meddai Rhys:
“Mae mynd i'r brifysgol wir yn gyfle i chi newid cyfeiriad eich bywyd er gwell. Rwy'n brawf byw o hynny, ac yn ddiolchgar bob dydd fy mod i wedi gwneud y penderfyniad hwnnw.”
Mae’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru, yn esbonio pam mae’r ymgyrch mor bwysig:
“Mae Cymru’n wynebu heriau sylweddol o ran cyfranogiad, gyda llai o bobl ifanc 18 oed o Gymru yn dewis gwneud cais i brifysgol nag ar unrhyw adeg yn y degawd diwethaf. Mae dadansoddi annibynnol yn rhagweld y bydd Cymru angen 400,000 o raddedigion ychwanegol erbyn 2035, ac eto mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd gennym garfannau o bobl ifanc â llai o gymwysterau na’u rhagflaenwyr uniongyrchol.
“Mae felly’n bwysicach nag erioed ein bod yn dathlu’r holl fanteision – personol a phroffesiynol – y gall mynd i brifysgol eu cynnig i unigolion.
“Mae’r penderfyniad i ddilyn addysg uwch yn fwy na dewis academaidd; mae’n llwybr sy’n newid bywyd ac yn agor drysau; mae’n ehangu gorwelion, ac yn rhoi’r pŵer i unigolion gyrraedd eu llawn botensial.
“Mae’r ymgyrch Trawsnewid Bywydau yn rhoi cyfle gwych i ni dynnu sylw at rai o’r unigolion ysbrydoledig hyn, a’n gobaith yw y bydd pobl, yn eu tro, yn cael eu cymell i rannu eu straeon eu hunain am sut mae’r brifysgol wedi trawsnewid eu bywydau.”
Ymunwch â'r ymgyrch
Mae Prifysgolion Cymru yn gwahodd graddedigion, myfyrwyr, ac unrhyw un sydd wedi profi grym trawsnewidiol addysg uwch i ymuno â’r ymgyrch.
Rhannwch eich taith bersonol, eich llwyddiannau, a'r eiliadau sydd wedi siapio eich bywyd. Efallai nad oeddech chi erioed wedi meddwl y byddech chi'n mynd i'r brifysgol, neu efallai bod eich bywyd wedi mynd i gyfeiriad hollol annisgwyl oherwydd eich amser yn y brifysgol a'r cyfleoedd a ddaeth yn sgil hynny. Gall fod trwy'r cysylltiadau a wnaethoch, yr anogaeth a gawsoch, y pynciau a astudiwyd gennych, neu'r drysau gyrfa a agorwyd i chi. Rhannwch eich stori yma.
I ddarllen straeon ysbrydoledig pobl y mae eu bywydau wedi’u trawsnewid oherwydd eu hamser yn y brifysgol, ewch i’n hadran astudiaethau achos a dewiswch ‘Trawsnewid Bywydau o’r gwymplen.