Ymchwil yng Nghymru yn creu’r effaith fwyaf
Mae prifysgolion Cymru’n parhau i berfformio'n dda o ran creu effaith trwy ymchwil. Mae hyn yn ôl canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 a gyhoeddwyd heddiw lle mae gan Gymru gyfran uwch o ymchwil sy’n derbyn 3 neu 4 seren ar gyfer effaith na’r DU yn ei chyfanrwydd.
19 May 2022
- Mae prifysgolion Cymru’n arwain y DU o ran cyfran yr ymchwil y mae ei effaith yn cael ei hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol neu’n arwain y byd
- Derbyniodd 89% o ymchwil Cymru 3 seren (rhagorol yn rhyngwladol) neu 4 (arwain y byd) am ei effaith
- Mae perfformiad Cymru’n gwella ar draws pob maes o ran cyfran yr ymchwil a ystyrir yn gymwys i dderbyn 3 neu 4 seren
Yn yr asesiad diweddaraf o ansawdd ymchwil ar draws y DU gyfan, gwellodd perfformiad Cymru yn gyffredinol, ac ar draws pob maes o ran cyfran yr ymchwil a farnwyd yn 3 a 4 seren.
Perfformiodd Cymru'n arbennig o dda o ran effaith, gydag 89% o ymchwil Cymru yn cael ei ystyried yn rhagorol yn rhyngwladol neu'n arwain y byd. Mae hyn yn uwch na chyfran y DU ac, ymhlith gwledydd y DU, mae’n gydradd uchaf ochr-yn-ochr â Gogledd Iwerddon.
Mae’r canlyniadau’n dangos perfformiad cryf gan brifysgolion Cymru ar draws ystod eang o bynciau, gan gynnwys:
- Proffesiynau Cysylltiedig ag Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth
- Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth
- Systemau Daear a Gwyddorau Amgylcheddol
- Pensaernïaeth, yr Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio
- Archaeoleg
- Addysg
- Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth
- Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
- Cyfathrebu, Astudiaethau Diwylliannol a'r Cyfryngau, Rheolaeth Llyfrgell a Gwybodaeth
Wrth wneud sylwadau ar ganlyniadau heddiw, meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:
“Mae prifysgolion Cymru’n cynnal ymchwil o ansawdd uchel ar draws ystod o feysydd pwnc – ac mae canlyniadau REF heddiw yn dangos bod yr ymchwil hwn yn cael effaith. Mae ein prifysgolion wedi profi eu gallu i fanteisio ar y gwaith a wnânt yn effeithlon a sicrhau buddion diriaethol i gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd.
“Mae partneriaeth a chydweithio wrth galon llwyddiant ymchwil Cymru. Bydd rhaglenni fel Cymru Fyd-eang yn rhoi cyfleoedd i ni adeiladu ar y canlyniadau hyn, gan gryfhau partneriaethau rhyngwladol i gynnal sector ymchwil bywiog â chysylltiadau rhyngwladol sy’n cyflawni dros Gymru nawr ac yn y dyfodol.”
Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesedd Cymru:
“Mae ymchwil ac arloesedd yn gwneud cyfraniadau hanfodol i’r economi ac i gymdeithas, ac mae ein prifysgolion yn ganolog yn hyn o beth. Rwy’n croesawu cyhoeddi canlyniadau REF heddiw sy’n tynnu sylw at holl gryfderau amrywiol ein prifysgolion o ran ymchwil, yn ogystal â’r ffyrdd y maent o fudd i’n cymdeithas a’n heconomi.
“Sefydlwyd Rhwydwaith Arloesedd Cymru yn rhannol i fanteisio ar y cryfderau amrywiol hyn. Bydd hyn yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni adeiladu ar y llwyddiant hwn, cynyddu ymhellach yr effaith gadarnhaol y mae ein hymchwil yn ei chael, a chyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer ymchwil yng Nghymru.
“Elfen allweddol arall o’n hymagwedd at y dyfodol fydd y cymorth parhaus a gynigiwn ar gyfer datblygiad ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, fel y gallwn sicrhau dyfodol ein sylfaen ymchwil a pharhau i ddarparu manteision hirdymor sylweddol i economïau a chymdeithasau ledled Cymru a thu hwnt.”
Yn yr asesiad diweddaraf o ansawdd ymchwil ar draws y DU gyfan, gwellodd perfformiad Cymru yn gyffredinol, ac ar draws pob maes o ran cyfran yr ymchwil a farnwyd yn 3 a 4 seren.
Perfformiodd Cymru'n arbennig o dda o ran effaith, gydag 89% o ymchwil Cymru yn cael ei ystyried yn rhagorol yn rhyngwladol neu'n arwain y byd. Mae hyn yn uwch na chyfran y DU ac, ymhlith gwledydd y DU, mae’n gydradd uchaf ochr-yn-ochr â Gogledd Iwerddon.
Mae’r canlyniadau’n dangos perfformiad cryf gan brifysgolion Cymru ar draws ystod eang o bynciau, gan gynnwys:
Proffesiynau Cysylltiedig ag Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth Systemau Daear a Gwyddorau Amgylcheddol Pensaernïaeth, yr Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio Archaeoleg Addysg Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Cyfathrebu, Astudiaethau Diwylliannol a'r Cyfryngau, Rheolaeth Llyfrgell a Gwybodaeth