
Ymateb Prifysgolion Cymru i'r cyhoeddiad ynghylch ardoll myfyrwyr rhyngwladol
Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru wedi cyhoeddi na fydd ardoll yn cael ei chyflwyno ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru.
9 Hydref 2025
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Cadeirydd Prifysgolion Cymru, yr Athro Elwen Evans KC:
“Mae hyn yn newyddion i’w groesawu gan Ysgrifennydd y Cabinet.
“Mae myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol i Gymru yn ogystal â chyfoethogi ein cyrsiau, ein campysau a’n cymunedau.
“Byddai cyflwyno ardoll – treth ychwanegol i bob pwrpas – wedi cael effaith andwyol ar brifysgolion Cymru. Byddai'r ardoll wedi cynyddu'r pwysau ariannol sydd ar y sector, gan effeithio ar allu prifysgolion i gyfrannu at eu cymunedau lleol ac o bosibl lleihau nifer y lleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru a gweddill y DU.
“Mae cyhoeddiad heddiw yn neges glir gan Lywodraeth Cymru bod croeso i fyfyrwyr rhyngwladol astudio yng Nghymru.”