
Ymateb Prifysgolion Cymru i newidiadau mewn cynhaliaeth i fyfyrwyr a chyllido addysg uwch
Mewn ymateb i gyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru ar newidiadau mewn cynhaliaeth i fyfyrwyr a chyllido addysg uwch, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru:
4 Rhagfyr 2024
'Mae Prifysgolion Cymru’n croesawu'r cyhoeddiad hwn ynghylch cymorth ychwanegol, sy'n dod ar adeg dyngedfennol i brifysgolion Cymru. Mae ein prifysgolion yn chwarae rhan sylfaenol mewn cymunedau ledled Cymru: yn creu swyddi, yn trawsnewid bywydau, yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, ac yn cyflawni ymchwil ac arloesedd sy’n arwain y byd.
'Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn ystod y flwyddyn o £10m mewn addysg uwch, ynghyd ag alinio ffioedd yng Nghymru â rhannau eraill o’r DU, yn darparu buddsoddiad y mae mawr ei angen i'n prifysgolion.
'Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Medr i fynegi maint yr heriau sy'n wynebu ein prifysgolion, ynghyd â nodi datrysiadau hirdymor i sicrhau cynaladwyedd ein prifysgolion.'