“Mae cyhoeddiad heddiw rhwng y DU a'r UE yn newyddion da i Gymru.

“Mae prifysgolion yng Nghymru yn parhau i gynnal perthnasoedd cryf iawn â'n partneriaid Ewropeaidd. Felly mae'n hanfodol bwysig bod Llywodraeth y DU a'r UE yn dal ati i gydweithio.

“Mae Cymru wedi parhau i ddangos ei hymrwymiad cryf i Ewrop, fel y dangosir gan ein rhaglen ryngwladol Taith sy'n cefnogi symudedd ledled y byd, gan gynnwys yn Ewrop.  Bydd dysgwyr a staff sy'n ymwneud â Taith yn tystio i'r profiad a'r manteision rhagorol y gall cyfleoedd symudedd o'r fath eu dwyn.

“Bydd mesurau sy'n galluogi mwy o gyfnewid academaidd a myfyrwyr gyda'n partneriaid Ewropeaidd yn cael croeso cynnes gan brifysgolion, yma yng Nghymru ac yn yr UE.

“Edrychwn ymlaen at gydweithio â phob plaid ar gam nesaf y trafodaethau.”