Ymateb Prifysgolion Cymru i gynllun strategol drafft Medr
Mae Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, wedi cyhoeddi ei gynllun strategol drafft ar gyfer 2025-30. Mewn ymateb i’r cynllun, dywedodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru:
24 September 2024
'Mae hon yn garreg filltir bwysig o ran sefydlu Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Rydym yn falch ac yn gefnogol i'r ymagwedd y mae Medr yn ei mabwysiadu wrth ymwneud ag ymgynghoriad gwirioneddol, gan geisio mewnbwn gan y rhai sydd â rhan allweddol yn llwyddiant Medr.
'Mae hwn yn amgylchedd heriol. Mae heriau sylweddol o ran cynaladwyedd i’n sefydliadau; rydym yn gweld cyfranogiad mewn addysg yn gostwng yng Nghymru, ac mae’r amgylchedd economaidd y parhau i fod yn heriol. Rydym yn croesawu’r ffaith bod y cynllun yn cydnabod llawer o feysydd pwysig a hanfodol, gan gynnwys yr angen am gynyddu cyfranogiad a chynyddu faint o ymchwil ac arloesi a gynhelir yng Nghymru.
'Ar yr un pryd, mae'r byd yn newid yn gyflym. Ni fu rôl darparwyr addysg o ran edrych tuag allan i’r byd ehangach erioed mor bwysig. Mae cyfle i fynegi ymhellach pa gyfleoedd y mae rhagolygon byd-eang yn eu cynnig.
'Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Medr a'r sector trydyddol ehangach wrth ddatblygu'r cynllun.'