Ymateb Prifysgolion Cymru i Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2025-26
Mewn ymateb i Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2025-26, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru:
21 Chwefror 2025
“Roeddem yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon ynghylch cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer prifysgolion Cymru, a fydd yn darparu cymorth tymor byr defnyddiol i’r sector.
“Fodd bynnag, nid yw’n ymddangos bod cyllideb 2025-2026 a gyhoeddwyd heddiw wedi newid, ac nid yw’n cynnig llawer o ddatrysiadau i’r sector addysg uwch ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. O ystyried y cyhoeddiadau diweddar gan ein prifysgolion a’r heriau ariannol yr ydym wedi bod yn eu hamlinellu ers tro, mae’n anodd gweld sut mae’r gyllideb hon yn darparu sefyllfa gynaliadwy i brifysgolion Cymru wrth symud ymlaen.
“Pe bai dim yn newid, mae Llywodraeth Cymru mewn perygl o weld prifysgolion yn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf heb y cymorth sydd ei angen arnynt.
“Mae prifysgolion Cymru yn sicrhau elw sylweddol ar fuddsoddiad, gan gynhyrchu dros £13m o effaith economaidd am bob £1m o arian cyhoeddus a fuddsoddir. O ystyried ffocws Llywodraeth Cymru ar dyfu’r economi ledled Cymru, mae’n ymddangos bod y gyllideb hon yn gam tuag yn ôl – nid yn unig i’r sector addysg uwch ond i economïau a chymunedau lleol ledled y wlad.
“Mae Prifysgolion Cymru yn galw ar bawb sydd wedi bod yn rhan o lunio’r gyllideb hon i ailystyried a darparu cymorth cynaliadwy i’n prifysgolion yn y flwyddyn academaidd nesaf.”