‘Er bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd yng ngoleuni’r pwysau ariannol ar draws portffolio Llywodraeth Cymru, mae’n hollbwysig i ni fod yn ymwybodol o’r materion difrifol a dybryd sy’n wynebu ein system addysg a beth fydd sgil-effaith y materion hynny.

'Yn achos prifysgolion, mae gennym gostau'n cynyddu'n gyflymach nag incwm a system gyllido nad yw bellach yn talu am y gost o addysgu myfyrwyr cartref nac ymchwil ac arloesedd.

'Mae hyn yn erbyn cefndir rhai o'r heriau mwyaf brawychus o ran cyfranogiad yr ydym wedi'u gweld ers blynyddoedd lawer, gyda llai o fyfyrwyr o Gymru’n dewis mynd i mewn i addysg uwch nag ar unrhyw adeg yn y degawd diwethaf. Mae’r bwlch mewn cyfranogiad rhwng Cymru a gweddill y DU yn tyfu.

'Ond mae'r risgiau'n ymestyn y tu hwnt i'n cyfraniad economaidd uniongyrchol. Mae goblygiadau hefyd o ran y cyfleoedd dysgu a chyflogaeth yr ydym yn gallu eu cynnig i Gymru, nawr ac yn y dyfodol, ac a yw cenedlaethau’r dyfodol yn gallu bod mor gymwysedig a medrus â’r rhai a ddaeth o’u blaen.

 'Bydd angen i ni weithio trwy oblygiadau llawn y gyllideb i'n prifysgolion a'u gallu i gyflawni ar gyfer cymunedau.'

DIWEDD

Nodiadau

  • Yn ein cyflwyniad i alwad y Senedd am wybodaeth am y gyllideb ddrafft, nododd Prifysgolion Cymru’r heriau sy’n wynebu prifysgolion: 
    • Mae dadansoddiad yn dangos nad yw'r ffi bellach yn ddigon i dalu costau llawn addysgu mewn unrhyw faes pwnc. Yn yr un modd, dim ond tua dwy ran o dair o'i gostau y mae ymchwil yn ei adennill, gan ddibynnu'n helaeth ar draws-gymhorthdal o ffynonellau eraill. 
    • Mae gwariant yn cynyddu’n gyflymach nag incwm yn sector prifysgolion Cymru.
    • Eleni gwelwyd llai o bobl ifanc 18 oed yng Nghymru’n dewis mynd i mewn i addysg uwch, gan gynyddu’r bwlch presennol mewn cyfranogiad rhwng Cymru a’r DU. Mae hyn yn erbyn cefndir o angen cynyddol am ddarpariaeth addysg uwch i ddarparu ar gyfer y twf a ragwelir yn y boblogaeth a chynnydd mawr yn y galw am sgiliau graddedigion.
    • Mae recriwtio rhyngwladol, sy’n hanfodol i gynaliadwyedd prifysgolion o ystyried y cymhorthdal sydd ei angen i ddarparu addysgu ac ymchwil, yn dod yn fwy ansicr gyda’r DU yn wynebu mwy o gystadleuaeth gan farchnadoedd eraill, ac yng ngoleuni newidiadau i bolisi mewnfudo ar lefel y DU.
    • Mae angen mwy o fuddsoddiad i gefnogi a chynyddu’r sylfaen ymchwil a datblygu yng Nghymru’n well er mwyn helpu i atal cylch o sgiliau isel, cyflogau isel a chynhyrchiant isel yng Nghymru, a sicrhau y gall Cymru gael gafael ar gyfran gymesur o fuddsoddiad llywodraeth y DU.
    • Mae ein prifysgolion yn cynnal ystod o wasanaethau cyhoeddus yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, o hyfforddi staff gwasanaethau cyhoeddus fel athrawon, meddygon a nyrsys, i ddarparu cyfleusterau cymunedol a mynediad at gyngor a gwasanaethau am ddim.