“Rydym yn siomedig o weld nad yw Cyllideb Ddrafft 2023-24 yn adlewyrchu’r heriau ariannol sy’n wynebu ein prifysgolion, nac ychwaith yn darparu’r cymorth sydd ei angen i sicrhau bod ein prifysgolion yn gallu dod â buddsoddiad i Gymru a chyflawni ar gyfer cymunedau.  

'Mae'r dadansoddiad diweddaraf o gyllid prifysgolion yn dangos nad yw ffioedd a grantiau bellach yn talu costau addysgu myfyrwyr y DU na chost gweithgarwch ymchwil ac arloesi. Mae addysgu ac ymchwil, sy'n hanfodol i ffyniant Cymru yn y dyfodol, bellach yn dibynnu ar weithgarwch rhyngwladol. Ar yr un pryd, mae prifysgolion Cymru yn gorfod rheoli’r golled ariannol o Gronfeydd Strwythurol yr UE, oedd yn cyfrannu tua £50m y flwyddyn tuag at brosiectau, sydd wedi bod o fudd i bobl a busnesau ledled Cymru.  

'Mae cynnydd sylweddol mewn cyllid mewn rhannau eraill o’r DU yn golygu her hyd yn oed yn fwy i'n prifysgolion wrth iddynt gystadlu am gyllid ar draws y DU gyfan. Mae'n hanfodol bod cyllid ychwanegol sydd ar gael yn sgil unrhyw gynnydd o’r fath yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod prifysgolion Cymru’n gallu gweithredu ar yr un lefel.  

'Yn erbyn y cefndir hwn a'r argyfwng costau byw, mae prifysgolion yn gwneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer myfyrwyr na allant gael gafael ar gymorth gan y llywodraeth yn yr un modd â grwpiau eraill. Mae hyn yn cynnwys cynnydd mewn arian o gronfeydd caledi a phecynnau cymorth eraill.'  

'Mae Cymru'n wynebu sawl her, gan gynnwys cyflawni sero net, paratoi ar gyfer effaith newid technolegol ar y gweithlu a mynd i'r afael ag effeithiau'r argyfwng costau byw. Mae gan brifysgolion ran allweddol i'w chwarae wrth ymateb i'r heriau hyn. Mae’r pwysau ariannol sy’n ein hwynebu nawr yn peryglu ein gallu i ymateb.” 

Nodiadau i olygyddion 

  • Prifysgolion Cymru yw'r corff sy'n cynrychioli buddiannau prifysgolion yng Nghymru, ac mae'n un o gynghorau cenedlaethol sefydliad Prifysgolion y DU. Mae aelodaeth Prifysgolion Cymru yn cwmpasu Is-Gangellorion holl brifysgolion Cymru, a Chyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru. Ein cennad yw cynnig cymorth i system addysg prifysgol sy'n trawsnewid bywydau trwy'r gwaith y mae prifysgolion yng Nghymru’n ei wneud gyda phobl a lleoedd Cymru a'r byd ehangach. 
  • Mae’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 yn dangos bod y dyraniad ar gyfer addysg uwch yn cael ei leihau i £198.7m, £4.8m yn is na’r £203.5m oedd yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022/23.  
  • Er ei bod yn ymddangos bod £1.6m o’r gostyngiad hwn wedi’i drosglwyddo o’r llinell addysg uwch i Taith, mae’r gostyngiad cyffredinol yn dal i olygu lleihad sylweddol mewn termau real yn yr adnoddau sydd ar gael i brifysgolion Cymru ar adeg o gostau cynyddol.  
  • Mae hyn yn erbyn cefndir o gynnydd sylweddol mewn cyllid cyfatebol mewn rhannau eraill o’r DU. Er enghraifft, cynyddodd cyllid ymchwil cysylltiedig ag Ansawdd (cyllid QR) yn Lloegr 10% o £1,789,000 i £1,974,000 eleni. Mae wedi cynyddu ymhellach ers hynny o ganlyniad i £100m ychwanegol gan Research England oherwydd yr oedi gyda Horizon Association a chynnydd pellach o £31.4m mewn cyllid QR atodol.  
  • Mae cyllid QR yn hanfodol er mwyn galluogi prifysgolion ym mhob gwlad i allu cystadlu am arian o gronfeydd ar gyfer y DU gyfan.  
  • Yn hollbwysig, roedd Cymru eisoes yn derbyn lefel gyfrannol is o ran cyllido QR o gymharu â gweddill y DU  
     

Image removed.

  • Mae amrywiaeth eang o bwysau yn wynebu prifysgolion. Mae myfyrwyr yn ceisio ymdopi ag argyfwng costau byw sy'n golygu bod 91% yn poeni am gostau byw, yn ôl data diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ar hyn o bryd hefyd mae anghydfod ar draws y DU gyda staff ynghylch cyflogau. UCEA yw’r corff sy’n cynnal cyd-drafodaethau cyflog mewn AU yn y DU a gellir cael rhagor o wybodaeth yma
  • Mae prifysgolion Cymru hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn costau o ganlyniad i bensiynau. Er enghraifft, cynyddodd cyfraniadau’r cyflogwyr at USS o 14% yn 2009 i 21.4% yn 2021; TPS o 16.4% i 23.6% ym mis Medi 2019. 
  • Ar yr un pryd, mae prifysgolion yng Nghymru’n gorfod ymdopi â’r golled ariannol o Gronfeydd Strwythurol yr UE a oedd, yn y cyfnod cyllido diwethaf rhwng 2014-2021, wedi darparu tua £350m ar gyfer prosiectau yr oedd prifysgolion yn bartneriaid arweiniol ynddynt. Mae prifysgolion Cymru bellach ar ymyl y dibyn yn sgil colli’r cyllid hwn.