“Mae Prifysgolion Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad hwn am gymorth ychwanegol i sector addysg uwch Cymru. Daw ar adeg dyngedfennol i’n prifysgolion, sy’n wynebu rhai o’r amgylchiadau ariannol mwyaf dybryd ac anodd ers blynyddoedd lawer. 

 “Rydym wedi gweithio’n adeiladol ac yn gadarnhaol gyda’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i geisio canfod datrysiadau i’r heriau y mae prifysgolion yng Nghymru’n eu hwynebu. Ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gyhoeddwyd heddiw a fydd yn darparu buddsoddiad tymor byr y mae mawr ei angen i'n sefydliadau.

“Fodd bynnag, rydym yn parhau i weithredu mewn amgylchedd economaidd heriol, ac mae angen dynodi datrysiadau hirdymor i helpu â mynd i’r afael â’r heriau sylfaenol a sicrhau cynaladwyedd y sector.

“Mae ein prifysgolion yn asedau cenedlaethol i Gymru, ac edrychwn ymlaen at barhau â’n deialog adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi ein prifysgolion i ddarparu buddion economaidd a chymdeithasol ar draws y wlad gyfan."