Mewn ymateb i’r cyhoeddiad meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru:

'Mae’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyllid ychwanegol ar gyfer y meysydd allweddol hyn o weithgarwch prifysgolion i'w groesawu'n fawr ac mae'n dod ar adeg allweddol.

'Bydd y cymorth ychwanegol ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn cael effaith gadarnhaol a diriaethol. Mae’n hanfodol bod Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesedd, gan ystyried y buddion cymdeithasol, economaidd ac o ran iechyd a ddaw yn sgil y gweithgareddau hyn. Mewn byd sy'n newid, bydd y gweithgareddau hyn yn bwysicach nag erioed.

'Yn yr un modd, mae'r cymorth i sefydliadau leihau eu hôl troed carbon wedi dod ar adeg amserol. Mae ein prifysgolion wedi gwneud ystod o ymrwymiadau i gefnogi sero net, gan gynnwys gosod targedau ar gyfer lleihau allyriadau a sicrhau bod y targedau hyn yn weladwy ar eu gwefannau.'