Ymateb Prifysgolion Cymru i ganlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2020
Mewn ymateb i ganlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) heddiw, meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:
6 July 2022
“Rydym yn croesawu canlyniadau’r ACF heddiw sy’n dangos cynnydd mewn cyfraddau boddhad myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru.
“Mae darparu profiad cadarnhaol sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ffynnu yn y brifysgol yn brif flaenoriaeth i’n haelodau, ac rwy’n falch o weld prifysgolion Cymru yn parhau i wneud cynnydd ar wella cyfraddau boddhad cyffredinol myfyrwyr, gan arwain y DU mewn meysydd allweddol megis asesu ac adborth, a llais myfyrwyr.
“Mae hyn yn dyst i ymrwymiad ac ymroddiad prifysgolion Cymru i addasu, arloesi a chynnig cefnogaeth i fyfyrwyr yn ystod cyfnod heriol.
“Yng ngoleuni’r pandemig, mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i fyfyrwyr, a gallant fod yn falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni, gan brofi eu bod yn wydn, yn ymroddedig ac yn hyblyg yn wyneb adfyd.
“Rydym yn cydnabod y gallwn bob amser wneud mwy, ac rydym yn gwerthfawrogi’r adborth a ddarperir gan yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, a fydd o gymorth i sefydliadau wrth iddynt barhau i addasu a gwneud gwelliannau yn y meysydd allweddol o ddysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr.
“Bydd prifysgolion Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu mwynhau’r profiad prifysgol gorau posibl sy’n eu paratoi ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol ac yn eu helpu i gyflawni eu potensial.”