“Rydym yn falch o weld canlyniadau’r ACF heddiw sy’n parhau i ddangos cyfraddau boddhad uchel ar gyfer prifysgolion Cymru.

“Yn hanesyddol, mae prifysgolion yng Nghymru wedi darparu profiad myfyrwyr cryf, ac mae canlyniadau heddiw yn dangos bod hyn yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i’n sefydliadau, gyda phrifysgolion Cymru yn arwain y DU mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyfleoedd dysgu, cymorth academaidd, a llais myfyrwyr.

“Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i waith caled prifysgolion Cymru mewn cyfnod arbennig o heriol, a’r ymrwymiad y maen nhw wedi’i ddangos i oresgyn yr heriau hyn a rhoi cymorth i fyfyrwyr ffynnu yng nghanol pandemig.

“Mewn amgylchiadau anodd, mae myfyrwyr wedi dangos eu bod yn wydn, yn ymroddedig ac yn gallu addasu, a gall y rhai sy’n cychwyn neu’n dychwelyd i’r brifysgol yr hydref hwn fod yn hyderus y bydd prifysgolion Cymru yn parhau i ddarparu cyrsiau gwerth chweil o ansawdd uchel, gyda phrofiad myfyrwyr ymysg y gorau, i’w helpu i gyflawni eu potensial. ”