“Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol nifer y cwynion gan fyfyrwyr ar gyfer 2022. 

 “Rhoddwyd cryn lawer o sylw i hyn yn y cyfryngau wrth i gwynion myfyrwyr am gyrsiau prifysgol yng Nghymru a Lloegr gyrraedd y lefel uchaf erioed am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.  

 “Er bod cyfanswm y nifer o gwynion ar gyfer Cymru a Lloegr yn wir wedi cynyddu, rydym yn nodi nad yw hyn yn rhoi darlun llawn o gwynion yng Nghymru. Mae nifer y cwynion a wnaed yn erbyn prifysgolion yng Nghymru wedi gostwng – o 138 o gwynion yn 2021, i lawr i 114 o gwynion yn 2022."