Cyhoeddir y gofyniad allweddol hwn heddiw fel rhan o gyfres o argymhellion polisi a fwriadwyd i wella gwasanaethau iechyd meddwl ymhellach yng ngholegau a phrifysgolion y wlad.

Yn cynnwys UCM Cymru, Prifysgolion Cymru, ColegauCymru a chymdeithas gwasanaethau myfyrwyr AMOSSHE, mae’r gweithgor sydd y tu ôl i’r argymhellion yn enghraifft bwysig o gydweithio ar draws addysg drydyddol, ac fe’i sefydlwyd i ddatblygu egwyddorion allweddol i Lywodraeth Cymru ystyried eu hymgorffori mewn polisi iechyd meddwl a llesiant ar gyfer myfyrwyr mewn addysg ôl-16.

Gan ystyried y Rhaglen Lywodraethu bresennol – sy’n cynnwys blaenoriaethu buddsoddiad mewn iechyd meddwl, ac ailgynllunio gwasanaethau gan hyrwyddo ymagweddiad ‘dim drws anghywir’ o ran cymorth iechyd meddwl – mae’r argymhellion a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi pwyslais cryf ar atal, ymyriad cynnar a mwy o gydgysylltu rhwng asiantaethau. 

Mae’r argymhellion yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion allweddol gan gynnwys: 

  • Profiad cyfartal: dylai myfyrwyr allu cael mynediad at safon gyson o gymorth, waeth ble maent yn byw ac yn astudio  
  • Rhannu gwybodaeth yn briodol ac yn effeithiol rhwng cyrff perthnasol 
  • Dealltwriaeth o rolau, cylchoedd gwaith a chyfrifoldebau sefydliadau addysgol a gwasanaethau iechyd statudol 
  • Cymorth ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sy’n pontio - er enghraifft wrth iddynt symud o’r ysgol i’r coleg, o’r coleg i’r brifysgol, o addysg i gyflogaeth, neu yn ôl i fyd dysgu fel oedolion 
  • Mae yna angen am gyllido sefydlog hirdymor ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl myfyrwyr. 

Meddai Hefin David ASC, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Brifysgolion:
“Pan drafododd y Grŵp Trawsbleidiol ar Brifysgolion iechyd a llesiant myfyrwyr, gwelsom enghreifftiau cadarnhaol o’r gwaith a gyflawnir gan golegau a phrifysgolion ledled Cymru, tra hefyd yn cael ymdeimlad clir o raddfa’r angen.

“Rwy’n falch o weld bod sgyrsiau’r Grŵp Trawsbleidiol wedi arwain at gyflawni’r gwaith hwn, gyda’r sector addysg uwch ac addysg bellach yn dod at ei gilydd i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella’r ddarpariaeth o gymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr ledled Cymru.

“Mae’n hanfodol bod darparwyr addysg a gofal iechyd yn gallu cydweithio i gynnig cymorth i fyfyrwyr, a bydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Brifysgolion yn parhau i annog cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn y maes pwysig hwn.”

 Meddai Becky Ricketts, Llywydd UCM Cymru:
“Mae myfyrwyr yn wynebu cymysgedd unigryw o bwysau ar eu llesiant, felly mae’n bwysig bod gwasanaethau iechyd meddwl ar y campws a’r hyn mae’r GIG yn ei gynnig yn gallu gweithio gyda’i gilydd i ddarparu ystod o ymyriadau. Mae gan yr argymhellion hyn, a ddatblygwyd gan y sector mewn partneriaeth â myfyrwyr o bob rhan o addysg ôl-16, y potensial i hybu’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes mewn prifysgolion a cholegau, gwreiddio arfer da ar draws y sector, a gosod Cymru ar flaen y gad o ran iechyd meddwl myfyrwyr.

“Mae'n bwysig bod cyllido hirdymor yn parhau i fod ar gael ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl myfyrwyr er mwyn gwneud yn siŵr, ni waeth pwy ydych chi neu ble rydych chi'n astudio yng Nghymru, y gallwch chi gael gafael ar gymorth iechyd meddwl a llesiant amserol ac wedi'i deilwra ar eich cyfer chi, trwy gydol eich taith addysgol.” 

Dywedodd Ben Lewis, Cadeirydd AMOSSHE Cymru:

“Mae proffesiynwyr cymorth myfyrwyr y brifysgol yn rhan bwysig o’r partneriaethau sydd eu hangen arnom i dyfu gan ddarparu’r cyfleoedd a’r deilliannau gorau posibl i fyfyrwyr yng Nghymru. Mae’r argymhellion polisi hyn yn gyfle i greu dull newydd o weithredu wrth i ni symud y tu hwnt i’r pandemig.

“Rydyn ni’n gwybod bod y galw a’r disgwyliadau yn uchel ac yn cynyddu. Mae hyn yn rhoi cyfeiriad i ni ar gyfer cydweithio â’r llywodraeth, y GIG, cyllidwyr a phartneriaid eraill i gymryd camau nawr i fynd i’r afael â hyn.”

Meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:  

“Mae iechyd a llesiant myfyrwyr yn brif flaenoriaeth i brifysgolion yng Nghymru, a gall yr egwyddorion hyn, os cânt eu gweithredu, chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar yr adeg gywir ac yn y ffordd gywir.

Mae hon yn enghraifft bwysig o gydweithio ar draws addysg ôl-16 o’r math y mae’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gobeithio ei annog.  Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â’n cydweithwyr ar draws addysg drydyddol, a gyda gwasanaethau iechyd statudol, i ddarparu ymagweddiad rhagweithiol o gadw myfyrwyr yn iach yn feddyliol.” 

Meddai Simon Pirotte, Cadeirydd Grŵp Llesiant Gweithredol ColegauCymru: 
“Mae hwn yn ddarn pwysig o waith lle mae rhanddeiliaid allweddol yn y ddarpariaeth ôl-16 yng Nghymru wedi dod at ei gilydd i fynd i’r afael yn uniongyrchol â rhai o’r heriau sy’n wynebu ein dysgwyr ôl-16. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant a Llywodraeth Cymru i symud yr agenda hon yn ei blaen.”