Y nifer uchaf erioed o ymgeiswyr i brifysgolion Cymru
Cofnodwyd y nifer uchaf erioed o ymgeiswyr i brifysgolion yng Nghymru eleni, gyda sefydliadau addysg uwch Cymru’n gweld y cynnydd mwyaf (3.7%) o holl wledydd y DU. Mae hyn yn ôl data diweddaraf UCAS.
18 July 2022
Mae’r data o 30ain Mehefin 2022, sef dyddiad olaf UCAS i wneud cais am hyd at bum cwrs ar yr un pryd, yn dangos y canlynol:
- Y nifer uchaf erioed (82,060) o ymgeiswyr i brifysgolion yng Nghymru
- Y cynnydd mwyaf yn nifer yr ymgeiswyr (3.7%) o blith gwledydd y DU
- Y nifer uchaf erioed (23,500) o ymgeiswyr o Gymru
- Cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr rhyngwladol (12,500) i brifysgolion yng Nghymru
- Y gyfran uchaf erioed o bobl ifanc 18 oed o Gymru’n gwneud cais am le mewn prifysgol (38.1%)
Meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, wrth wneud sylwadau ar y data diweddaraf hwn gan UCAS:
“Rwy’n falch iawn o weld ffigurau heddiw sy’n dangos bod cyfraddau ceisiadau i brifysgolion yng Nghymru’n parhau i godi, gyda’n sefydliadau’n gweld y cynnydd mwyaf o blith gwledydd y DU. Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnig unigryw a wneir i fyfyrwyr gan brifysgolion yng Nghymru, ynghyd â'r croeso cynnes a'r profiad rhagorol y gall pob myfyriwr ddisgwyl ei dderbyn yn ein sefydliadau.
“Mae gan brifysgolion ran hanfodol i’w chwarae yn ffyniant economaidd a chymdeithasol Cymru yn y dyfodol, a bydd angen pobl â sgiliau lefel gradd arnom i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu fel cymdeithas. Yn y cyd-destun hwn mae’n arbennig o galonogol gweld bod y nifer uchaf erioed o bobl ifanc 18 oed yng Nghymru’n parhau i osod gwerth ar y manteision a’r cyfleoedd y mae addysg prifysgol yn eu cynnig.
“Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau rhyngwladol, sydd i’w groesawu. Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn chwarae rhan amhrisiadwy o ran creu amrywioldeb a rhyngwladoli ein campysau a’n cymunedau.
“Mae ein myfyrwyr yn rhan bwysig a gwerthfawr o’n cymunedau ledled Cymru, a gall y rheiny sy’n ymuno â ni’r hydref hwn fod yn hyderus y bydd prifysgolion Cymru’n parhau i ddarparu cyrsiau gwerth chweil o ansawdd uchel i’w helpu i gyflawni eu potensial.”