Y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol a phrosiect Partneriaeth Cerebra
Mae'r Ganolfan Arloesi ar gyfer Technolegau Cynorthwyol (ATiC) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda Cerebra i ddatblygu proses ar gyfer sganio pennau plant â chyflyrau ymennydd sydd wedi effeithio ar dwf a datblygiad eu penglogau.
Mae gan Imogen barlys yr ymennydd ac mae wrth ei bodd yn marchogaeth, ond mae siâp ei phenglog yn ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i helmed marchogaeth sy'n ffitio'n iawn. Trwy'r bartneriaeth hon, llwyddodd ATiC a Cerebra i ddefnyddio offer sganio uwch-dechnoleg i greu helmed bwrpasol sy'n ffitio’n berffaith.
Cennad ddinesig
Mae prifysgolion yng Nghymru yn chwarae rôl ddinesig bwysig yn eu cymunedau, ac mae ganddynt hanes balch o weithio gyda phobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnes.
Darganfyddwch fwy am waith cennad ddinesig ein haelodau