
Welsh universities at the forefront of European cultural heritage collaboration
Teithiodd ymchwilwyr o brifysgolion Cymru i Frwsel yr wythnos hon fel rhan o ddigwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi i arddangos eu gwaith ar dreftadaeth ddiwylliannol ac i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu mewn rhaglenni ymchwil Ewropeaidd.
7 Mawrth 2025
Trwy gyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Addysg Uwch Cymru Brwsel, cafodd ymchwilwyr o bob prifysgol yng Nghymru gyfle i ymgysylltu â Swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd, rhwydweithiau a sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol, sefydliadau ymchwil, prifysgolion a chynrychiolwyr llywodraethau rhanbarthol , yn barod ar gyfer Partneriaeth arfaethedig Horizon Europe mewn Treftadaeth Ddiwylliannol Gydnerth.
Wrth i Gymru baratoi i ymgysylltu â Phartneriaeth newydd Horizon Europe, roedd y digwyddiadau ym Mrwsel yn amlygu ymroddiad y wlad i dreftadaeth ddiwylliannol, gweithredu ar yr hinsawdd, a phartneriaethau byd-eang. Canolbwyntiodd y trafodaethau ar ystod eang o feysydd ymchwil - o dreftadaeth ieithyddol i wydnwch arfordirol, trwy adrodd straeon amgylcheddol ac ymgysylltu cymunedol cynaliadwy.
Cefnogwyd y digwyddiadau gan Gynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru, sef menter gydweithredol wedi’i hwyluso gan Rwydwaith Arloesedd Cymru. Trwy’r rhwydwaith hwn, mae ymchwilwyr o Gymru eisoes yn cryfhau eu trefniadau cydweithredol ar draws Cymru yn y celfyddydau a’r dyniaethau, gan gynnwys treftadaeth ddiwylliannol, gan osod Cymru ar flaen y gad o ran gweithredu diwylliannol ar y cyd mewn mentrau treftadaeth ddiwylliannol Ewropeaidd.
Disgwylir i Bartneriaeth newydd Horizon gael ei chymeradwyo yn ddiweddarach eleni, a bydd yn canolbwyntio ar dair thema allweddol: treftadaeth ddiwylliannol a'r amgylchedd, treftadaeth ddiwylliannol a chymdeithas, a rheoli treftadaeth ddiwylliannol. Mae treftadaeth ddiwylliannol yn cyfoethogi ein bywydau, gan chwarae rhan hanfodol wrth wella cyfalaf cymdeithasol Ewrop. Mae hefyd yn sbardun sylweddol i dwf economaidd, cyflogaeth, a chydlyniant cymdeithasol, gyda'r potensial i adfywio ardaloedd trefol a gwledig, yn ogystal â hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy.
Roedd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ASC yn siarad yn un o’r digwyddiadau, ynghyd â’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru, ac Irene Norstedt, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Pobl: Iechyd a Chymdeithas, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Ymchwil ac Arloesedd, y Comisiwn Ewropeaidd.
Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe a Chadeirydd Prifysgolion Cymru:
“Un o nodweddion mwyaf rhyfeddol ein prifysgolion yw eu gallu i gynnal ymchwil sy’n cael effaith sylweddol, yma yng Nghymru ac yn fyd-eang. Mae partneriaeth a chydweithio wrth wraidd y llwyddiant hwn – nid yw arloesedd yn digwydd ar ei ben ei hun.”
“Mae Cymru’n cynnal ymchwil ardderchog mewn amryw o feysydd treftadaeth ddiwylliannol, o iaith i archaeoleg i ardaloedd nad ydynt bellach yn ddiwydiannol, gyda phwyslais cryf ar ymgysylltu â’r gymuned a chynaladwyedd treftadaeth. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y trafodaethau ym Mrwsel, a chymryd rhan yn y cyfleoedd sydd ar gael yn Horizon Europe gan gynnwys y Bartneriaeth newydd; croesawn y cyfle i gysylltu â phartneriaid prifysgol, rhanbarthol a threftadaeth ddiwylliannol ledled Ewrop.”
Cefnogwyd y digwyddiadau ym Mrwsel gan Brifysgolion Cymru, Cronfa Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru, Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru o fewn Rhwydwaith Arloesedd Cymru, ac Addysg Uwch Cymru Brwsel.