Undebau, prifysgolion a rheoleiddiwr yn cymeradwyo dull newydd o lywodraethu yng Nghymru
Heddiw mae’r sector prifysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi ei ymateb i’r adolygiad annibynnol o lywodraethiant yng Nghymru, dan arweiniad Gillian Camm. Nod yr adolygiad oedd ‘galluogi llywodraethwyr i arwain y ffordd mewn llywodraethiant corfforaethol da o ran cydymffurfiad, ac yn hanfodol diwylliant ystafell y bwrdd’.
19 February 2020
Cynhaliwyd yr adolygiad hwn, a gomisiynwyd gan Gadeiryddion ac Is-Gangellorion prifysgolion Cymru, rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2019. Amlygodd nifer o werthoedd llywodraethiant allweddol gan gynnwys ymddiriedaeth, atebolrwydd, tryloywder, ymgysylltiad, her a chymhwysedd.
Amlinellodd yr adolygiad hefyd themâu allweddol gan gynnwys y dylai’r corff llywodraethu ym mhob prifysgol:
- feddu ar ddealltwriaeth glir am ddiwylliant y sefydliad
- sicrhau bod rhanddeiliaid, yn enwedig staff, myfyrwyr a phartneriaid strategol, mewn sefyllfa i ymgysylltu â strategaethau allweddol y brifysgol a chyfrannu atynt
- sicrhau bod her a thrafodaeth yn cael eu hannog ar draws y sefydliad
Mewn ymateb i’r adolygiad, mae’r sector prifysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi Siarter Llywodraethiant ar gyfer Prifysgolion yng Nghymru ac Ymrwymiad i Weithredu. Mae’r dogfennau hyn yn cymeradwyo prif ganfyddiadau’r adolygiad, yn cydnabod yr heriau a welwyd i lywodraethiant yng Nghymru a ledled y DU a’r angen am ymrwymiad ar y cyd i weithredu.
Mae’r siarter yn gosod allan dull o drawsnewid llywodraethiant a fydd yn cael ei fabwysiadu gan yr holl brifysgolion yng Nghymru. Cytunwyd ar y ddogfen hon gan Gadeiryddion prifysgolion ac Is-Gangellorion, ac mae’n dangos eu hymrwymiad i raglen newid ynghylch llywodraethiant prifysgolion.
Meddai Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cadeiryddion Prifysgolion Cymru: “Mae prifysgolion yng Nghymru yn benderfynol o sicrhau’r safonau llywodraethiant uchaf posibl, a dyna pam y comisiynwyd yr adolygiad annibynnol i ddynodi arfer gorau ar draws y sector a thu hwnt.
“Rydym yn croesawu’r adroddiad a’i argymhellion, ac ynghyd â phartneriaid rydym wedi cytuno ar Siarter Llywodraethiant ac Ymrwymiad i Weithredu. Mae gan Gadeiryddion cyrff llywodraethu prifysgolion gyfrifoldeb nawr i weithredu’r camau hyn yn eu sefydliadau, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chymuned y brifysgol i fwrw ymlaen â’r fenter bwysig hon.”
Meddai’r Athro Julie Lydon OBE, Cadeirydd Prifysgolion Cymru: “Hoffwn ddiolch i Gillian Camm am yr adolygiad trylwyr a chynhwysfawr hwn o lywodraethiant prifysgolion, sydd wedi darparu’r sector â set o argymhellion clir i gynorthwyo prifysgolion i arwain y ffordd o ran llywodraethiant da.
“Mae prifysgolion yng Nghymru’n chwarae rhan hanfodol yn genedlaethol, yn rhyngwladol ac yn eu cymunedau lleol. Maent yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Cymru, ac fel sefydliadau maent yn angor allweddol ar gyfer dinasoedd a threfi ledled y wlad.
“Rydym yn sylweddoli bod y gwaith hwn yn golygu her i’r sector, ond yn erbyn y cefndir hwn, gyda’r dirwedd addysg uwch sy’n newid ledled y DU, dyma’r ymagwedd gywir i sicrhau bod ein systemau llywodraethiant yn addas ar gyfer y dyfodol. Dyna pam rydyn ni’n falch o allu ymrwymo, ynghyd â’n partneriaid a’n rhanddeiliaid, i’r rhaglen newid hon.”
Meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru: “Rydym yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad amserol hwn, a fydd yn helpu i osod y sector addysg uwch yng Nghymru ar flaen y gad yn rhyngwladol o ran arfer da ym maes llywodraethiant. Bydd y canlyniadau’n helpu i gynnal y gwaith hanfodol a wneir gan lywodraethwyr mewn prifysgolion, ac rydym yn falch bod pob pennaeth prifysgol a’u cadeiryddion llywodraethwyr wedi ymuno â’r Siarter a ddeilliodd o’r adroddiad.
“Mae’n hanfodol bod cyrff llywodraethu yn gallu darparu goruchwyliaeth effeithiol o’u sefydliad, gan gynnwys lefel briodol o brawf a her i’w swyddogion gweithredol, ac mae’n sicr y bydd yr ymrwymiad hwn yn gwella safonau llywodraethiant ym mhrifysgolion Cymru.”
Meddai Margaret Phelan, swyddog Cymru ar gyfer Undeb y Prifysgolion a Cholegau “Credaf y bydd aelodau’r undeb yng Nghymru yn croesawu’r adroddiad hwn a’r ymrwymiad a wnaed gan Gadeiryddion Prifysgolion ac Is-Gangellorion i gynorthwyo prifysgolion i arwain y ffordd o ran llywodraethiant da. ”
Meddai Dan Beard o Bwyllgor Gwaith Addysg Uwch UNSAIN Cymru: “Mae UNSAIN wedi’u plesio â chanlyniad yr adolygiad hwn; mae ein haelodau wedi dadlau bod angen newid er mwyn i lywodraethiant prifysgolion fod yn fwy tryloyw, atebol ac effeithiol. Mae’r ffordd yr oeddem ni a’n chwaer undeb llafur UCU yn rhan o’r adolygiad hwn yn unol â’r model partneriaeth gymdeithasol sydd wedi datblygu yn sector cyhoeddus Cymru, ac wedi’i hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru. Edrychwn ymlaen at weld ymrwymiadau’r siarter Llywodraethiant hon yn cael eu gweithredu cyn gynted ag sy’n ymarferol”