Trawsnewid perfformiadau o ‘Carmen’ ar lwyfannau’r byd
Mae ymchwil yr Athro Clair Rowden o Brifysgol Caerdydd wedi creu ffyrdd newydd o feddwl am un o'r operâu a berfformir amlaf ledled y byd, Carmen. Mae ei gwaith yn ysbrydoli perfformiadau newydd ledled y byd ac yn trawsnewid dulliau gweithwyr proffesiynol creadigol.
Perfformiwyd Carmen gan Bizet am y tro cyntaf ym Mharis ym 1875. Cafodd dderbyniad digon simsan ym Mharis cyn dod yn un o operâu mwyaf y byd. Lleolir yr opera yn Seville ac mae'n adrodd hanes Carmen, merch ifanc, annibynnol sy'n syrthio mewn cariad â milwr a chanddo gryn dymer, Don José.
Dywedodd yr Athro Rowden, “Carmen yw opera Ffrengig eiconig y cyfnod hwnnw, yr un sy'n cael ei pherfformio amlaf. Ysgrifennodd Bizet Carmen ar ffurf opéra-comique, a oedd yn cynnwys testun i’w siarad yn ogystal â’i ganu, ac, ar ôl ei farwolaeth, fe'i haddaswyd yn fersiwn i’w chanu’n llawn. Er bod llawer o addasiadau wedi bodoli dros y blynyddoedd, nid oes yr un ohonynt wedi atgynhyrchu sgôr y premiere ym Mharis.”
Ar gyfer yr argraffiad Urtext (gair Almaeneg yw Urtext sy’n golygu argraffiad sy’n ceisio adlewyrchu amcanion y cyfansoddwr mor agos â phosib) o sgôr llais perfformiad cyntaf Carmen, argraffiad a gyd-olygwyd gan yr Athro Rowden a'r Athro Richard Langham Smith, defnyddiwyd llawysgrifau, sgoriau perfformiadau, libretti a llawlyfrau llwyfannu o'r cynyrchiadau gwreiddiol ym Mharis. Eu nod oedd datblygu sgôr y gellid gweithio ohoni yn seiliedig ar y perfformiadau cyntaf ym Mharis; sgôr y gallai cyfarwyddwyr a gweithwyr proffesiynol creadigol ei defnyddio i lywio dehongliadau newydd o'r opera.
Wedi’i chyhoeddi gan Edition Peters, mae'r sgôr hon yn wahanol i eraill gan ei bod yn:
- cyflwyno ‘opera: y perfformiad’ — mae'n cyfleu nid yn unig sut y cafodd yr opera ei pherfformio gyntaf ond hefyd sut y cafodd ei llwyfannu gyntaf
- sgôr y gall cerddorion ei defnyddio — mae argraffiadau urtext ysgolheigaidd eraill, drwy gynnwys llawer iawn o ddeunydd nad yw fyth yn cael ei berfformio, yn swm rhy fawr o wybodaeth i ymarferwyr ei ddefnyddio wrth baratoi ac ymarfer cynhyrchiad
- rhoi manylion o'r llawlyfrau llwyfannu gwreiddiol, yn cynnwys yr holl ddeialogau gwreiddiol, ac yn blaenoriaethu'r testun Ffrangeg a genid yn wreiddiol.
Mae'r sgôr lleisiol wedi gwerthu dros 1,260 o gopïau ledled y byd ac fe'i defnyddiwyd ar gyfer o leiaf 67 o berfformiadau mewn chwe gwlad (Cymru, Lloegr, Ffrainc, yr Almaen, Gweriniaeth Tsiec a Singapôr).