Trawsnewid Bywydau - Paige Tynan
Graddiodd Paige Tynan o Brifysgol Wrecsam gyda gradd mewn Gwyddor Fforensig. Mae hi bellach yn ddarlithydd biowyddorau ac yn ei blwyddyn olaf o gwrs PhD.
Dyma stori Paige:
“Roedd dechrau gradd ym Mhrifysgol Wrecsam yn benderfyniad munud olaf i mi. Yn yr ysgol uwchradd, dywedwyd wrthyf y byddwn yn methu fy arholiadau gwyddoniaeth. Roedd hynny’n ergyd i’m hyder gymaint fel y penderfynais nad dilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth oedd y llwybr cywir i mi mwyach. Yn lle hynny, es i i'r coleg i astudio gofal plant. Penderfynais wneud cais am le yn y brifysgol i astudio nyrsio pediatrig, ond roedd y broses ymgeisio yn gofyn am brofion Saesneg, a methais y rheiny. Erbyn hyn roeddwn i wedi cael fy ngwrthod bum gwaith, a doedd gen i ddim cynllun clir o'r hyn roeddwn i eisiau ei wneud.
"Penderfynais roi un cyfle olaf ar wyddoniaeth. Chwiliais am raddau Gwyddoniaeth Fforensig a darganfod bod Prifysgol Wrecsam yn cynnig llwybr blwyddyn sylfaen a fyddai'n caniatáu i mi ddal i fyny â'r wybodaeth wyddonol yr oeddwn wedi colli allan arni yn ystod Lefel A.
"Ar y dechrau, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd ymgartrefu yn y brifysgol, ond erbyn fy ail flwyddyn, roedd popeth wedi dechrau disgyn i’w le. Cefais ddiagnosis am ddyslecsia a derbyniais gefnogaeth ragorol gan fy narlithwyr a’r tîm Cynhwysiant. Erbyn hyn roedd gen i'r cymorth roedd ei angen arnaf, a dechreuodd fy marciau wella.
"Yn fy ail flwyddyn, cefais y cyfle i ymweld ag America lle dysgon ni bopeth am bydru ac esgyrn, gan dreulio prynhawn yn un o’r ychydig iawn o gyfleusterau ymchwil Taphonomeg Dynol yn y byd. Dyma ble des i’n chwilfrydig am astudio Taphonomeg Fforensig.
"Ers y daith hon, mae llawer o fy ymchwil wedi canolbwyntio ar Daphonomeg Fforensig. Roedd yr ymchwil ar gyfer fy nhraethawd hir yn canolbwyntio ar y cwestiwn: oedd maint y corff dynol yn cael effaith ar gyfraddau pydru. Es ymlaen yn ddiweddarach i ennill dwy wobr; Canmoliaeth Uchel yn y Gwobrau Israddedig Byd-eang, lle cafwyd dros 4,000 o gyflwyniadau gan fyfyrwyr mewn 50 o wledydd gwahanol, gan ei osod yn y 10% uchaf yn y categori Gwyddor Bywyd; a Gwobr Dewis y Cynrychiolwyr yng Nghynhadledd Haf Cymdeithas Anthropoleg Fforensig Prydain.
"Rwyf bellach lai na blwyddyn i ffwrdd o gyflwyno fy nhraethawd PhD ac yn gweithio fel Darlithydd llawn-amser mewn Biowyddorau ym Mhrifysgol Wrecsam, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr fforensig. Rwyf hefyd wedi cael nifer o erthyglau gwyddonol wedi'u cyhoeddi yng nghyfnodolion Springer Nature, ac yn gobeithio am lawer mwy i ddod."