Fe newidiodd mynd i'r brifysgol fy mywyd i gymaint, nes i mi yn llythrennol ysgrifennu'r llyfr ar hyn! Roedd gen i obsesiwn am ffilmiau Indiana Jones pan oeddwn i’n fachgen ifanc, ac roeddwn i wrth fy modd yn breuddwydio y byddai’n bosibl i mi un diwrnod ddilyn yn ôl traed Indy, gan archwilio coedwigoedd glaw mewn gwledydd pell a dod ar draws bywyd gwyllt anhygoel ar hyd y ffordd.

Wrth gwrs, roedd hyn i gyd yn haws dweud na gwneud. Roeddwn i o gefndir cymharol dlawd, a gadewais yr ysgol yn 15 oed heb unrhyw gymwysterau ffurfiol. Nid oherwydd fy mod yn fyfyriwr gwael, ond oherwydd bod gennyf ddyslecsia, cyflwr nad oedd yn cael ei gydnabod yn y system addysg ar y pryd. Byddai mynd ymlaen i fod yn Dr Jones yn sicr yn anodd ei gyflawni o ystyried fy nghefndir a’m hamgylchiadau, ond roedd yn her yr oeddwn yn benderfynol o’i chyflawni.

Mae fy hunangofiant yn adrodd hanes sut y gwireddwyd breuddwydion fy mhlentyndod o 'Ddod yn Dr Jones' yn y pen draw trwy astudio ar gyfer tair gradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyflawnais fy ngradd israddedig mewn Sŵoleg a Geneteg, MPhil mewn Entomoleg Foleciwlaidd Feddygol, a PhD mewn Ffylogeneteg, herpetoleg a pharasitoleg. Cyflawnais hyn i gyd ar ôl penderfynu bod angen i mi drawsnewid fy mywyd, ymrestru ar gwrs Mynediad i addysg uwch, ac yna gwneud cais i astudio ar gyfer gradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl cymryd yr ychydig gamau bach cyntaf hynny yn nerfus, rydw i nawr yn mwynhau cyflawni llamau enfawr.

Rhys Jones walking through the forest with local guides

Allwn i byth fod wedi breuddwydio y byddai astudio yn y brifysgol yn golygu fy mod i’n ymweld â Dwyrain Affrica dros ddwsin o weithiau. Y byddwn yn mynd ar saffari, yn gweld anifeiliaid nad oeddwn ond wedi darllen amdanynt mewn gwerslyfrau ac yn ffurfio cyfeillgarwch â chymunedau llwythol. Y byddwn yn traddodi darlithoedd i dros fil o bobl ar y tro yn Tsieina, ac yn hysbysu swyddogion y llywodraeth yn Somaliland. Y byddai fy ymchwil yn mynd â mi i'r Aifft, Kenya ac Uganda ac y byddai fy enw da yn teithio'r byd.

Rwyf wedi gweithio gyda DEFRA, INTERPOL a gwahanol heddluoedd ar draws y byd yn y frwydr yn erbyn troseddau bywyd gwyllt. Mae fy arbenigedd wedi helpu i garcharu troseddwyr ac wedi achub anifeiliaid sydd wedi dioddef straen yn y gwyllt. O ganlyniad i'm henw da, cysylltwyd â mi i weithio ochr yn ochr â Syr David Attenborough ar gyfres gyntaf Planet Earth y BBC. Es ymlaen i gael tair cyfres amser brig yn fy enw fy hun ar rwydwaith y BBC; llwyddodd un ohonynt i ddenu 10 miliwn o wylwyr, a chefais fy enwebu ar gyfer BAFTA yn y categori 'Cyflwynydd Gorau'.

Arweiniodd y cyfresi cynnar hynny gan y BBC at ymestyn fy ngorwelion yn fyd-eang, gan gyflwyno rhaglenni gwyddoniaeth a bywyd gwyllt ar Discovery, +Disney, National Geographic, The Smithsonian Channel ac Amazon Prime. Cefais gyfle i dreulio amser yn cynghori'r Frenhines Elizabeth II am yr ymchwil roeddwn i'n ei wneud yng Nghaerdydd, a hyd yn oed treulio amser yn siarad  â’r Brenin Siarl III am gerddoriaeth ac addysg.

Ond efallai mai’r gamp rwyf falchaf ohoni hyd yma yw dod yn awdur rhyngwladol. Y llyfrau rwy’n eu hysgrifennu yw fy etifeddiaeth, ac maent yn werthusiad gonest o sut mae mynd i’r brifysgol wedi newid fy mywyd, er gwell. Tybed beth fyddai fy hunan yn iau wedi'i wneud o ddarllen yr erthygl hon. Rwy’n siŵr na fyddwn wedi credu mai mynd i’r brifysgol oedd yr ysgogiad i gyflawni’r cyfan sydd gennyf, ond felly oedd hi mewn gwirionedd. Rwyf bellach yn dal swydd freintiedig fel Athro Cyswllt mewn Bioleg Esblygiadol yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd.

Mae'r brifysgol wedi newid fi fel person. Rwy'n fwy hyderus, yn fwy hunan-ddibynnol, yn well chwaraewr tîm ac yn deall y byd yn well. Mae mwy i fynd i'r brifysgol na dim ond dysgu pwnc neu grefft newydd; mae'n ymwneud ag agor eich llygaid i'r byd, cwrdd â phobl newydd o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd na fyddech o bosib wedi dod ar eu traws fel arall. Mae’n ymwneud â gwrando ar farn gwahanol bobl a dysgu gan y rhai sydd wedi ymchwilio i bynciau o’ch blaen, fel bod gennych chi farn bwyllog ac addysgedig yn ystod dadleuon, a’ch bod yn gallu cynnig datrysiadau i rai o’r heriau yr ydych yn dod ar eu traws yn y byd.

Mae mynd i'r brifysgol wir yn gyfle i chi newid cyfeiriad eich bywyd er gwell. Rwy'n brawf byw o hynny, ac yn ddiolchgar bob dydd fy mod i wedi gwneud hynny.

Darllenwch fwy o straeon o'n hymgyrch Trawsnewid Bywydau.

Trawsnewid Bywydau logo in purple and orange