Newidiodd bywyd Mark yn sylweddol ym Mehefin 1982 pan gollodd ei goes chwith mewn damwain wrth reidio ei feic adref o'r ysgol. Roedd y digwyddiad hwn yn nodi dechrau taith drawsnewidiol iddo.

Dros yr wyth mlynedd nesaf, datblygodd Mark o fod yn fachgen swil 10 oed nad oedd yn gallu nofio i fod yn athletwr hynod hyderus. Cafodd lwyddiant rhyfeddol mewn nofio, gan ennill medalau yng Ngemau Paralympaidd Seoul 1988 a Phencampwriaethau Byd Miami 1989. Dysgodd ei yrfa athletaidd iddo bwysigrwydd canolbwyntio ar alluoedd yn hytrach na chyfyngiadau, ymdrechu am berffeithrwydd, ac ymfalchïo ynddo'ch hun.

Wedi'i ysbrydoli gan blentyn a oedd yn edmygu'r clawr gwyrdd cŵl â golau LED a wnaeth ar gyfer ei goes brosthetig, penderfynodd Mark roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Yn 2018, sefydlodd ef a’i wraig Rachael LIMB-art, cwmni sy’n ymroddedig i gynhyrchu cloriau unigryw a hwyliog ar gyfer coesau prosthetig. Eu hamcan yw helpu defnyddwyr offer prosthetig i roi hwb i'w hyder, bod yn falch o'u prostheteg, a mwynhau eu dangos. Mae LIMB-art yn dyst i daith Mark a'i ymrwymiad i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill.

Aeth Mark ymlaen i astudio yn Academi Busnes Gogledd Cymru Prifysgol Bangor – y cyntaf yn ei deulu i fynychu’r brifysgol. Rhoddodd astudio yn y Brifysgol lawer mwy o hyder i Mark yn ei benderfyniadau wrth i'w ganlyniadau ategu'r hyn yr oedd yn 'credu' yr oedd yn ei wybod yn sgil 25 mlynedd mewn busnes corfforaethol. Yn ogystal â hynny, fe wnaeth y cwrs ei helpu i gysylltu ag eraill a thyfu ei rwydwaith personol a busnes, gan fod y mwyafrif helaeth o arweinwyr busnes yn dod trwy’r llwybr academaidd.

Mae cwmni Mark, LIMB-art, wedi derbyn canmoliaeth uchel, gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, Gwobr y Brenin am Fenter.

Ym mis Gorffennaf 2024, dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gweinyddiaeth Busnes i Mark gan Brifysgol Bangor.

Photo of Mark. Black text on orange background: "Dysgodd fy amser yn y brifysgol ddygnwch i mi, ehangais fy mhersbectif, a magais ddigon o hyder i ymgymryd â heriau ychwanegol. Roedd y fwy na'r wybodaeth a ddysgais, ond yn hytrach y sgiliau a'r cyfeillgarwch oes sydd wedi fy ngwneud i bwy ydw i heddiw."