“Mae fy mywyd wedi newid yn aruthrol o ganlyniad i fynd i'r brifysgol - o fod yn nerfus iawn yn 19 oed am yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud, i fod bellach mewn gyrfa greadigol rydw i'n ei charu.

Rhoddodd y profiad a’r wybodaeth a gefais o ddefnyddio peiriannau diwydiannol, pecynnau Adobe, creu patrymau sy’n ailadrodd eu hunain a chymaint o bethau eraill, hyder i mi yn yr hyn rwy’n ei garu ac eglurder o ran beth rydw i eisiau ar gyfer fy mywyd gwaith.

Rwyf bellach yn Ddylunydd Nwyddau i’r Cartref gyda Matalan, yn arbenigo mewn Dylunio Dillad Gwely ac Argraffu a Phatrwm. Ymysg y pethau rydw i’n gweithio arnyn nhw mae ymchwil i dueddiadau, creu paletau lliw a siopa gyda chystadleuwyr, yn ogystal â gweithio a meithrin perthnasoedd gyda chyflenwyr yn y Dwyrain Pell.”

Black and white photo of Ellie. Black quote text on orange background: "Mae fy mywyd wedi newid yn aruthrol o ganlyniad i fynd i'r brifysgol. Rhoddodd y profiad hyder i mi yn yr hyn rwy’n ei garu ac eglurder o ran beth rydw i eisiau ar gyfer fy mywyd gwaith."