Trawsnewid Bywydau - Charlotte Manser
Ar ôl graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2017 gyda BA mewn Serameg, aeth Charlotte Manser ymlaen i sefydlu a rhedeg busnes chwe ffigur.
Dyma stori Charlotte:
“Graddiais gyda BA mewn Serameg yn 2017, yna yn 2019 sefydlais Charlotte Manser Ceramics - busnes yn gwneud ac yn gwerthu crochenwaith ymarferol.
"Mae bod yn rhan o ysgol gelf yn brofiad prifysgol hollol wahanol. Mae fel bod gennych chi ail gartref. Mae pawb yno i'ch cefnogi, eich herio a'ch helpu i symud ymlaen. Mae cynnwys y darlithoedd mor eang, o agweddau mwy ymarferol rhedeg busnes, i heriau athronyddol celf a'r byd.
"Pan oeddwn i yn y brifysgol, roeddwn i eisiau bod yn athrawes, ond ar ôl dwy flynedd fel intern addysgu penderfynais sefydlu busnes yn lle hynny. Er na ddilynais i’r llwybr mwyaf seiliedig ar fusnes yn fy addysg, dysgais lawer am greu nwyddau i’w gwerthu.
"Mae mor bwysig gwneud y gorau o'r gefnogaeth a'r arweiniad a gewch wrth astudio. Mae digonedd o gefnogaeth ar gael pan fyddwch chi'n gadael y brifysgol. Derbyniais gyllid gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth ar ôl i mi raddio ar gyfer sefydlu busnes newydd. Caniataodd y cyllid hwn i mi brynu offer pwysig i ddechrau fy musnes.
"Dros y 3 blynedd diwethaf rwyf wedi gweithio i adeiladu fy musnes sydd bellach â throsiant chwe ffigur, tîm o bedwar aelod, ac sy’n creu nwyddau a gaiff eu gwerthu ar draws y byd.
"Peth diweddar cyffrous iawn yw cydweithredu â John Legend! Wedi'i drefnu gan Etsy, dewisodd John Legend 11 o siopau Etsy sy'n berchen i fenywod, pobl dduon neu leiafrifoedd i greu cydweithfa haf a gaeaf gyda nhw. Fi oedd yr unig werthwr a ddewiswyd yn y DU, ac ers lansio'r fenter gydweithredol mae fy ngwerthiant wedi dyblu.
"Rwyf hefyd wedi dychwelyd i Met Caerdydd i rannu fy mhrofiad gyda myfyrwyr Serameg cyfredol Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd am fywyd ers graddio a rhywfaint o arweiniad ar sefydlu busnes. Rwy’n awyddus i gynnal perthynas gyda myfyrwyr Met Caerdydd a gobeithio darparu cyfle i un myfyriwr bob blwyddyn ddod yn aelod newydd o fy nhîm. Rydw i eisiau dangos i fyfyrwyr y gallwch chi wneud bywoliaeth allan o rywbeth rydych chi'n ei fwynhau."