Nid oedd Carrie Power erioed wedi ystyried mynd i’r brifysgol yn ystod ei blynyddoedd ysgol. Doedd neb yn ei theulu wedi mynychu'r brifysgol, ac arweiniodd hynny at adael yr ysgol heb ddeall beth oedd ei holl opsiynau.

Yn 19 oed, ymunodd Carrie â'r Fyddin Brydeinig, gan hyfforddi i ddechrau fel Mecanydd Cerbydau ac yn ddiweddarach gwasanaethu fel Technegydd Meddygol yn Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin, cyn gweithio fel Trefnydd Trafnidiaeth i'r Fyddin. Nid oedd hyn yn cynnig unrhyw lwybrau dilyniant a dechreuodd Carrie gwestiynu ei dewis o ran gyrfa.

Penderfynodd fentro a gwneud cais i brifysgol, gan ennill lle ym Mhrifysgol Abertawe i astudio Ieithoedd Modern. Yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol daeth hefyd o hyd i le ar dîm nofio'r Brifysgol, gan ennill medal efydd ym Mhencampwriaethau Meistri Prydain yn ddiweddar.

Mae Carrie bellach yn paratoi ar gyfer cael ei hyfforddi fel athrawes Almaeneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Rhydychen, ac mae’n edrych ymlaen at rannu ei dealltwriaeth newydd o addysg uwch a’i photensial gyda’r genhedlaeth nesaf.

Photo of Carrie. Black text on orange background: "Bod yn y brifysgol yw'r hapusaf rydw i wedi bod yn fy holl fywyd. Rwy’n teimlo’n fodlon fy mod ar y llwybr cywir mewn bywyd nawr, ac mae hynny’n gwneud unrhyw frwydr rydw i wedi gorfod mynd drwyddi yn werth chweil."