Trawsnewid Bywydau - Aston Nicholls
Graddiodd Aston Nicholls o Brifysgol De Cymru (PDC) gyda gradd mewn nyrsio oedolion. Tra bu’n astudio ym Mhrifysgol De Cymru, anogodd academyddion i integreiddio mwy o gynhwysiant o fewn cyrsiau gofal iechyd. Mae bellach yn gweithio fel nyrs iechyd rhywiol - swydd y mae'n ei charu.
Nid bod yn nyrs oedd dewis cyntaf Aston o ran gyrfa. Roedd wedi bod mewn swyddi llwyddiannus ym maes rheoli manwerthu ac yna recriwtio meddygol ond, yn 28 oed, penderfynodd ei fod eisiau mwy. Roedd e am gael proffesiwn. Gan nad oedd e wedi astudio ers degawd, penderfynodd wneud cwrs sylfaenol mewn gofal iechyd gyda'r nos.
Roedd gweithio’n llawn-amser ac astudio yn ddwys, ond llwyddodd Aston i basio’r cwrs sylfaenol; camodd i ffwrdd o weithio’n llawn-amser, a dechreuodd astudio ar gyfer gradd nyrsio oedolion ym Mhrifysgol De Cymru.
Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, daeth Aston yn llysgennad PDC ac fe’i hetholwyd yn Gadeirydd y Grŵp Cyswllt Myfyrwyr a Staff ar gyfer ei gwrs - rolau a roddodd gyfle iddo weithio’n agos gyda staff a myfyrwyr.
Gan fod ganddo’r berthynas waith agos hon gyda’i ddarlithwyr, gofynnodd Aston am gael trafodaeth am rywbeth agos at ei galon – cynrychiolaeth LHDTCRhA+ mewn hyfforddiant gofal iechyd.
Anogwyd Aston i greu prosiect o amgylch y pwnc a dyluniodd gyflwyniad ar faterion LHDTCRhA+ o fewn gofal iechyd gyda'r nod o ysgogi darlithwyr i wneud addysgu yn fwy cynhwysol. Yn dilyn adborth cadarnhaol a chais gan Bennaeth yr Ysgol, trodd Aston y cyflwyniad yn fideo i'w ddefnyddio fel arf addysgu.
Pwrpas y fideo yw rhoi dealltwriaeth sylfaenol i fyfyrwyr gofal iechyd o bynciau a therminoleg LHDTCRhA+. Y gobaith yw y bydd y fideo yn annog myfyrwyr i siarad (a dechrau deall) am sut y gellir cynnig cymorth i'r ddemograffeg hon o gleifion.
Mae Aston bellach yn gweithio fel nyrs iechyd rhywiol - swydd y mae'n ei charu.