Trawsnewid Bywydau - Antigone Cooper
Cymerodd Antigone Cooper lwybr ychydig yn anarferol i'w gradd, ar ôl treulio rhan sylweddol o'i harddegau mewn gofal. Mae hi nawr yn bwriadu defnyddio ei phrofiad o oresgyn heriau personol i adeiladu gyrfa ym maes adnoddau dynol.
Daw Antigone yn wreiddiol o’r DU ond fe’i magwyd yn UDA, gan ddychwelyd i’r DU yn ei harddegau cynnar. Dyna pryd cymerodd ei bywyd lwybr gwahanol i'r hyn yr oedd yn ei ddisgwyl.
“Cefais fy magu yn Texas, ond roedd symud i’r DU yn eithaf cythryblus ac arweiniodd at chwalu’r berthynas gyda fy rhieni,” meddai Antigone.
Pan gyrhaeddodd Antigone 16 oed, penderfynodd ddechrau gweithio, gan ymgymryd â nifer o swyddi cyn dod yn ofalwr ar gyfer pobl â dementia oedd angen cymorth diwedd oes pan oedd yn 18 oed.
Fodd bynnag, ar ôl ychydig flynyddoedd, penderfynodd nad dyna'r yrfa yr oedd am ei dilyn yn y tymor hir, ac ystyriodd ddychwelyd i addysg, gan benderfynu dechrau gradd seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).
Graddiodd Antigone yn 2021 gyda 2:1 ac aeth ymlaen i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol.
Ar ôl treulio pedair blynedd ym Mhrifysgol De Cymru, mae ganddi ddigon o sylwadau cadarnhaol am y gefnogaeth a gafodd gan y Brifysgol.
“Er fy mod wedi treulio amser mewn gofal, roedd bod ychydig yn hŷn yn golygu fy mod wedi arfer rheoli fy mywyd fy hun a gwneud yn siŵr bod pethau mewn trefn,” meddai Antigone.
“Ond roedd cefnogaeth wych i’w chael o hyd gan y brifysgol. Rhoddwyd un person i mi y gallwn i gysylltu â nhw rhag ofn fy mod angen unrhyw beth. Maen nhw wir yn gofalu amdanoch chi ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo'n ddiogel - os rhywbeth, roeddwn i'n teimlo fy mod i’n cael mwy o gyfle na phobl eraill, dim ond oherwydd fy mod i'n cael cymaint o gefnogaeth.”
Ac mae mynd i'r brifysgol yn rhywbeth y mae Antigone yn dweud y byddai'n ei argymell 'miliwn y cant'.
“Os nad ydych chi'n mynd i'r brifysgol, mae terfyn ar ba mor bell y gallwch chi gyrraedd ac, yn enwedig fel rhywun sydd wedi bod trwy’r system gofal, dim ond ystadegyn ydych chi'r rhan fwyaf o'r amser,” meddai.
“Gall fod cymaint o stigma yn perthyn i fod yn berson sy’n gadael gofal. Felly, mae'n braf chwalu’r ystrydeb honno.”