Rydyn ni'n gwybod bod mynd i'r brifysgol yn talu ar ei ganfed.

Gall astudio yn y brifysgol fod ymhlith y cyfnodau mwyaf pleserus a gwerth chweil ym mywyd myfyriwr, gyda manteision o ran datblygu sgiliau, meithrin gwybodaeth, ffurfio cyfeillgarwch newydd, cymryd rhan mewn gwirfoddoli ac – i lawer – byw'n annibynnol am y tro cyntaf. Mae gradd o brifysgol yn y DU hefyd yn parhau i roi hwb sylweddol i gyflog, lefelau cyflogaeth a rhagolygon gyrfa graddedigion gydol eu hoes.

Fodd bynnag, y tu ôl i'r ystadegau mae pobl go iawn y mae eu bywydau wedi newid er gwell o ganlyniad i fynd i'r brifysgol. A'r straeon hyn yr ydym am roi sylw penodol iddynt.

Rydyn ni eisiau clywed sut mae mynd i brifysgol wedi trawsnewid eich bywyd chi - boed hynny'n bersonol, yn broffesiynol, neu'n gyfuniad o'r ddau.

Efallai nad oeddech chi erioed wedi meddwl y byddech chi'n mynd i'r brifysgol, neu efallai bod eich bywyd wedi mynd i gyfeiriad hollol annisgwyl oherwydd eich amser yn y brifysgol a'r cyfleoedd a ddaeth yn sgil hynny. Gall fod trwy'r cysylltiadau a wnaethoch, yr anogaeth a gawsoch, y pynciau a astudiwyd gennych, neu'r drysau gyrfa a agorwyd i chi.

Rydym yn bwriadu cynnwys ystod eang o bobl a straeon, felly cofiwch rannu eich profiadau gyda ni. Rhannwch eich stori yma.

I ddarllen straeon ysbrydoledig pobl y mae eu bywydau wedi’u trawsnewid oherwydd eu hamser yn y brifysgol, ewch i’n hadran astudiaethau achos a dewiswch ‘Trawsnewid Bywydau o’r gwymplen.

Trawsnewid Bywydau logo in purple and orange