Sut y gall llywodraeth y DU weithio gyda phrifysgolion i fynd i’r afael â heriau
Wrth ysgrifennu yn y Western Mail, amlinellodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru'r heriau sydd o'n blaenau, gan alw ar lywodraeth y DU i weithio gyda'r sector addysg uwch i fynd i'r afael â'r heriau hynny a datgloi potensial Cymru.
11 July 2024
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn y Western Mail
Ychydig cyn i'r etholiad cyffredinol gael ei alw, cyhoeddodd y wasg restr fewnol a ryddhawyd yn answyddogol o argyfyngau posibl y gallai fod angen i Lafur fynd i'r afael â hwy pe baent yn cael eu hethol. Ynghyd â materion fel y pwysau ar gyllidebau’r GIG ac awdurdodau lleol, roedd cynaladwyedd prifysgolion.
Mae hyn yn dangos dau beth: ar un llaw’r pwysau anhygoel ar gyllid prifysgolion, ac ar y llaw arall y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus sydd hefyd yn wynebu heriau tebyg.
I brifysgolion yng Nghymru, mae hwn yn faes cymhleth. Er bod addysg wedi’i datganoli, ynghyd â rhannau o’r ymchwil ac arloesedd, mae llawer o feysydd sy’n bwysig i brifysgolion wedi’u neilltuo i Lywodraeth y DU, gan gynnwys strategaeth ddiwydiannol, cynghorau ymchwil a pholisi mewnfudo.
A thu hwnt i’r meysydd hynny a neilltuwyd yn uniongyrchol, mae’r niferoedd sylweddol o fyfyrwyr sy’n croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr i’r naill gyfeiriad a’r llall i astudio’n golygu bod deilliannau anuniongyrchol yn perthyn i lawer o benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU. Er enghraifft, mae newidiadau yn y gynhaliaeth i fyfyrwyr sydd ar gael i fyfyrwyr o Loegr neu reoleiddio prifysgolion Lloegr yn aml yn gofyn am ymateb gan Gymru.
Sy’n dod â ni at gwestiwn canolog: gyda phrifysgolion Cymru yn wynebu rhai o’r heriau ariannol mwyaf dybryd yn ein hanes diweddar, beth all Llywodraeth newydd y DU ei wneud?
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol, cyhoeddodd Prifysgolion Cymru ein blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf y DU. Nid yw’n syndod mai un o’n gofynion canolog yw datganoli’r cymorth ariannol sydd ar gael yn lle’r arian oedd yn arfer dod o’r Undeb Ewropeaidd. Roedd colli arian o Gronfa Strwythurol yr UE yn ergyd drom i’n prifysgolion a’u gallu i gyflawni dros bobl a busnesau. Mae’n anodd gorbwysleisio cyrhaeddiad a manteision y prosiectau hynny a ariannwyd gan yr UE. Boed yn ffyrdd newydd o gynhyrchu a storio ynni, creu cyfleoedd i fusnesau bach gael mynediad at ymchwil ac arloesedd o’r radd flaenaf, neu’n ddatblygu technegau amaethyddol newydd a fyddai’n helpu i sicrhau diogelwch bwyd, roedd yr arian yma’n ei gwneud hi’n bosibl i’r gwaith y mae ein hacademyddion yn ei wneud gyrraedd a helpu mwy o bobl ar draws Cymru gyfan.
Nid oedd y gronfa newydd - Cronfa Ffyniant a Rennir y DU - yn galluogi prifysgolion i gynnal y gwaith hwn. Roeddem yn falch o weld Llafur y DU yn gwneud ymrwymiad yn eu maniffesto i adfer y broses o wneud penderfyniadau ynghylch arian o gronfeydd a daeth yn lle arian Ewropeaidd. Bydd y misoedd nesaf yn gyfnod hollbwysig o benderfynu sut olwg fydd ar y trefniadau cyllido newydd a sut y maent yn gweithredu.
Ac mae hyn yn ymwneud ag un o'n gofynion ehangach: bod Llywodraeth newydd y DU yn ceisio cryfhau a gwella gwaith ar draws y pedair gwlad. Mae cymhlethdod ein setliad datganoli, yn arbennig yng nghyd-destun prifysgolion, yn golygu bod cyfathrebu da yn hanfodol ar gyfer llunio polisïau da. Dyma un enghraifft: Mae Llafur y DU wedi nodi parodrwydd i roi ystyriaeth i gynhaliaeth ariannol ar gyfer myfyrwyr o Loegr. Gall newidiadau yn y system cymorth ariannol i fyfyrwyr yn Lloegr fod â goblygiadau i Gymru, yn enwedig gan fod cost y system yn Lloegr yn pennu, i raddau, yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y system yng Nghymru. Mae sicrhau bod llywodraethau’n cydweithio, yn gynnar yn y broses, yn hanfodol i leihau canlyniadau anfwriadol.
Mae’r adolygiad diweddar o’r llwybr graddedigion, a gomisiynwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU, yn rhoi enghraifft arall o pam mae’r ymgysylltu hwn rhwng y pedair gwlad yn bwysig. Mae'r llwybr graddedigion, sy'n rhoi'r hawl i fyfyrwyr rhyngwladol aros yn y DU am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, yn bwysig i sicrhau bod Cymru a'r DU yn parhau i fod yn gyrchfan ddeniadol. Mae'n ein gosod ni ar yr un lefel â llawer o'r gwledydd rydyn ni'n cystadlu â nhw. Roeddem yn falch o weld yr adolygiad yn argymell cadw'r llwybr graddedigion fel y mae.
O ystyried bod gan Gymru gyfran is o fyfyrwyr rhyngwladol yn ein prifysgolion na rhannau eraill o’r DU, a chyfran is o raddedigion yn ein gweithlu, byddai unrhyw newidiadau posibl yn llwybr y graddedigion o bosibl wedi cael effaith aruthrol ar Gymru. Mae hyn hefyd yn ymwneud â pha mor bwysig yw hi fod Llywodraeth y DU yn cydnabod y gwahaniaethau rhwng gwahanol rannau o’r DU, ac yn gweithio’n agos ar draws y pedair gwlad.
Clywn mor aml am yr heriau sy’n ein hwyneb: y pwysau ar gyllid cyhoeddus, newid yn yr hinsawdd, datblygiadau technolegol. Yng Nghymru, oherwydd bod ein poblogaeth, ar y cyfan, yn hŷn ac yn llai cymwysedig na gweddill y DU, mae rhai o’r heriau hyn yn ymddangos yn fwy ar ein gorwel. Nid oes datrysiadau hawdd i'r problemau y mae prifysgolion yn eu hwynebu na'r heriau mwy sy'n wynebu Cymru. Ond mae yna resymau dros optimistiaeth.
Mae ein prifysgolion wedi sefyll fel angorau yn eu cymunedau ers blynyddoedd lawer. Mae ganddyn nhw’r sgiliau a’r arbenigedd i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n codi ac i’n hamddiffyn rhag y stormydd economaidd y byddwn yn dod ar eu traws. Nid oes dianc rhag anferthedd y dasg sy’n wynebu Llywodraeth newydd y DU.
Ond, mae yna hefyd gryfderau ledled Cymru sy'n rhy aml yn gudd ac sy'n cael eu tanddefnyddio. Bydd cydnabod y cyfraniad y gall ein holl leoliadau ei wneud, a’r hyn sydd ei angen i ddatgloi’r cyfraniad hwnnw, yn ein helpu i ddod o hyd i atebion a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn union fel y gwnaeth y prosiectau hynny a gyllidwyd gan arian o gronfeydd yr UE ar draws cymaint o Gymru.
Dyna pam mae ein neges ar gyfer Llywodraeth y DU yn eithaf syml: mae angen i chi weithio ar draws y pedair gwlad, cydnabod amrywioldeb ein cryfderau a’n hanghenion, a sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud gyda’n gilydd, ar y cyd, er mwyn rhoi’r cyfle gorau i ni ymdopi â’r heriau rydym yn eu hwynebu.