Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar Nation.Cymru

Mae gan ddiwylliant Cymru gyrhaeddiad a chydnabyddiaeth fyd-eang. O gestyll i gorau, y Mabinogi i’r Manic Street Preachers, Doctor Who i Dylan Thomas. Mae gan Gymru gyfoeth o ddiwylliannol amrywiol sy’n cael ei gydnabod gan bobl ledled y byd.

Ond mae ein diwylliant, a’i werth i ni, hyd yn oed yn fwy na hyn.

Yn gynharach y mis hwn, rhoddodd Dydd Gŵyl Dewi gyfle i ni ddathlu diwylliant Cymru yn ei holl ogoniant (er bod hynny’n rhithwir i raddau helaeth eleni), ond yr hyn nad oedd yn amlwg efallai ymhlith y dathliadau yw rôl ganolog prifysgolion Cymru mewn datblygu, hybu a hyrwyddo’r diwylliant hwn.

Pan fyddwn yn siarad am yr hyn sydd gan brifysgolion i’w gynnig, yn aml mae hyn yng nghyd-destun yr economi, neu’n cael ei weld trwy lens ymchwil ac arloesi ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.

Gwyddwn, er enghraifft, fod prifysgolion Cymru wedi arwain y ffordd o ran datblygiadau gwyddonol sydd wedi dylanwadu ar ein dealltwriaeth o’r byd a sut rydym yn byw ynddo.

Gwyddwn hefyd fod prifysgolion yng Nghymru’n bwysicach i’w heconomïau rhanbarthol o’u cymharu â phrifysgolion mewn mannau eraill, gan greu incwm o £5bn a bron i 50,000 o swyddi ledled Cymru.

Ond nid dyma’r holl gyd.

Caernarfon Castle and harbour

Mae ein prifysgolion yn hynod bwysig i fywyd diwylliannol Cymru, o ran diogelu a gwella gwead cymdeithasol a diwylliannol eu cymunedau – yn lleol ac ar lefel genedlaethol.

Yn ogystal ag addysgu a chynnal ymchwil ym mhynciau’r celfyddydau a’r dyniaethau, mae ein prifysgolion hefyd yn ymgymryd ag ymchwil ynglŷn â Chymru, ei hiaith, ei llenyddiaeth a’i hanes, gan helpu i adeiladu dealltwriaeth ddyfnach o’n treftadaeth a’n lle yn y byd.

Ond y tu hwnt i hyn, mae prifysgolion Cymru hefyd yn gweithredu fel canolfannau diwylliannol ac artistig pwysig yn eu cymunedau, gan gynnig perfformiadau byw, arddangosfeydd a darlithoedd cyhoeddus, yn ogystal â darparu mannau cymunedol lle gall pobl ymgynnull ac ymwneud â gweithgareddau a rennir.

Yn 2018/19, mynychodd bron i 300,000 o bobl ddigwyddiadau dawns neu ddrama wedi’u trefnu gan brifysgolion yng Nghymru, tra bod 250,000 arall wedi mynychu arddangosfeydd a drefnwyd gan brifysgol.

Ac nid yw hyd yn oed pandemig wedi atal y gweithgareddau hyn, gyda phrifysgolion yn cyflwyno ystod eang o ddigwyddiadau rhithwir trwy gydol y cyfnod clo a thu hwnt – o weithdai creadigol ar-lein i wyliau cerddoriaeth rithwir, yn ogystal ag amrywiaeth o bethau eraill.

Wrth i ni ddod allan o’r pandemig Coronafeirws, bydd presenoldeb sefydledig prifysgolion mewn cymunedau yn parhau i ddarparu cyfleoedd i bobl ddod ynghyd a rhannu profiadau.

Man dressed in black drawing on a tablet with a computer screen in the background

Yn ogystal â bod yn ddarparwyr diwylliant ynddynt eu hunain, mae prifysgolion hefyd yn cyfrannu’n allweddol at y diwydiannau creadigol yng Nghymru, gan ddarparu talent, sgiliau a chyfleoedd i sector sy’n cyflogi mwy na 56,000 o bobl ledled Cymru.

Yn ogystal â chreu swyddi a chyfoeth, mae’r diwydiannau creadigol hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth greu brand cenedlaethol cryf sy’n sicrhau bod diwylliant a thalent Cymru yn cael eu cydnabod a’u dathlu ar draws y byd.

Wrth gwrs, wrth galon diwylliant Cymru mae ein hiaith, sy’n rhan mor annatod o’n hunaniaeth a’n treftadaeth. Ac yma hefyd, mae gan brifysgolion ran bwysig i’w chwarae.

Ers blynyddoedd lawer, mae sefydlu cynaladwyedd y Gymraeg at y dyfodol o fewn y byd academaidd wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Phrifysgolion Cymru. Ac mae ein sefydliadau wedi ymateb i’r her, gan weithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu cyfleoedd addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr ledled Cymru, yn ogystal â chynorthwyo miloedd o bobl i ddysgu Cymraeg bob blwyddyn trwy eu cyrsiau rhan-amser poblogaidd i oedolion.

Wrth symud ymlaen, bydd yr agwedd hon ar addysg uwch Cymru yn dod yn fwyfwy hanfodol wrth i Lywodraeth Cymru geisio gwireddu ei huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Pan fyddwn yn siarad am ddiwylliant Cymru, mae’n bwysig cydnabod nad yw ‘diwylliant’ yn rhywbeth statig. Mae’n beth byw, sy’n anadlu ac yn esblygu o hyd.

Yn yr un modd, er bod prifysgolion wedi bodoli yng Nghymru ers amser maith, nid ydyn nhw wedi sefyll yn eu hunfan. Trwy gydol yr ugeinfed ganrif gythryblus, mae ein prifysgolion wedi addasu a newid, ac yn y pum mlynedd diwethaf maent wedi dod ag egni o’r newydd i’r ffyrdd y maent o fudd i bobl a lleoedd yng Nghymru.

Mae sector diwylliannol deinamig a chryf yn hanfodol i gymdeithas flaengar sy’n gweithredu’n dda ac, wrth i’r wlad adeiladu’n ôl ar ôl Covid, bydd ein prifysgolion yn ganolog i amddiffyn a hyrwyddo’r diwylliant a rennir, gan gadarnhau safle Cymru fel gwlad fywiog, flaengar, sy’n hyderus yn ei safle ar lwyfan y byd.