Cyfarfu Dr Jon Maddy ag Aelodau Seneddol ac Arglwyddi yn San Steffan ar 4ydd Gorffennaf 2023 i gyflwyno ei fewnwelediadau diweddaraf ar hydrogen. Yn rhan o Wythnos Dystiolaeth yn y Senedd, gwnaeth Jon Maddy argymhellion polisi a thynnodd sylw at yr angen am adolygu polisïau cyfredol yng ngoleuni’r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael. Mae’r Wythnos Dystiolaeth yn ddigwyddiad blynyddol unigryw sy’n dod â’r cyhoedd, seneddwyr ac ymchwilwyr o bob rhan o’r DU ynghyd i drafod sut y gall tystiolaeth o ymchwil blaenllaw fod yn sail i lunio polisïau yn Senedd San Steffan.  

Cyflwynodd Dr Jon Maddy ei ganfyddiadau i’r canlynol: Caroline Nokes AS, David TC Davies AS, Jo Gideon AS, Liz Saville Roberts AS, Peter Dowd AS, Ruth Jones AS, a Wendy Chamberlain AS, gan eu darparu â gwybodaeth hanfodol i hysbysu’r penderfyniadau a wnânt ar bolisïau ar gyfer hydrogen yn y dyfodol. 

Meddai Lewis Dean, Pennaeth Rhwydwaith Arloesedd Cymru: 

“Roeddem yn falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn Wythnos Dystiolaeth ‘Sense about Science’, gan dynnu sylw at y gwaith arloesol sy’n digwydd yng Nghymru. Mae ymchwil Dr Jon Maddy ym Mhrifysgol De Cymru yn enghraifft wych o hyn, gan ddarparu mewnwelediadau allweddol i ddatgarboneiddio diwydiant drwy gynhyrchu hydrogen ar raddfa fawr am gost isel. Roeddem yn falch o gael hwyluso’r sgwrs ddwy-ffordd hon rhwng ymchwilwyr a seneddwyr, sy’n hanfodol ar gyfer craffu ar dystiolaeth a llunio polisïau effeithiol.”

Mae’r Wythnos Dystiolaeth, sydd bellach yn ei chweched blwyddyn, yn cael ei chynnal gan yr elusen ymgyrchu Sense about Science a’r Swyddfa Seneddol dros Wyddoniaeth a Thechnoleg (POST), mewn partneriaeth â Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, Llyfrgell Tŷ’r Arglwyddi, Ipsos, y Swyddfa Reoleiddio Ystadegau a sefydliadau ymchwilio o bob rhan o'r DU. Yn ystod yr wythnos, mae ASau yn cyfarfod â gwyddonwyr blaenllaw i gael y mewnwelediad diweddaraf ar faterion dybryd sy'n cynnwys pynciau mor amrywiol â thai, cyflenwadau bwyd, ynni, iechyd ac anghydraddoldeb. Mae’n gyfle i’r cyhoedd, seneddwyr, ac ymchwilwyr ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth a mewnwelediadau. Mae’n grymuso’r rhai sy’n llunio deddfau i ymgysylltu â thystiolaeth ac yn eu darparu â’r wybodaeth sy’n hanfodol iddynt ymdrin ag ansicrwydd, nodi rhagfarn a chraffu ar ragdybiaethau sylfaenol. 

Meddai Tracey Brown, Cyfarwyddwr Sense about Science 

“O ffermio i draffig trefol, mae ansawdd yr ymchwil a’r dystiolaeth a ddefnyddir yn effeithio ar b’un a yw polisïau a chyfreithiau yn gwneud synnwyr. Rydym yn falch iawn bod ASau yn cael y cyfle i ddysgu gan Brifysgol De Cymru am wneud gwell defnydd o dystiolaeth ymchwil yn ystod Wythnos Dystiolaeth yn y Senedd. Mae cysylltiadau ag ymchwil blaengar yn bwysig i ASau, sy’n gorfod pasio deddfau, dal y llywodraeth i gyfrif a deall y materion sy’n effeithio ar eu hetholwyr.” 

Yn ôl arolwg cynrychioliadol o 1,078 o oedolion ym Mhrydain Fawr gan Ipsos a Sense about Science a ryddhawyd yr wythnos hon ar gyfer Wythnos Dystiolaeth 2023, dim ond traean neu lai o bobl sy’n meddwl bod gan ASau y gallu i ofyn y cwestiynau cywir i’r Llywodraeth am dystiolaeth ar feysydd polisi hanfodol. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial (26% yn hyderus, o gymharu â 60% ddim yn hyderus), polisi ynni (31% yn hyderus, o gymharu â 60 % ddim yn hyderus), gofal iechyd (33% yn hyderus, o gymharu â 59% ddim yn hyderus), yr economi (34% yn hyderus, o gymharu â 57% ddim yn hyderus) a newid hinsawdd (30% yn hyderus, o gymharu â 60% ddim yn hyderus). 

Mae tua hanner poblogaeth Prydain yn parhau i feddwl bod gwleidyddion yn rhoi rhy ychydig o sylw i dystiolaeth (7% gormod, 51% rhy ychydig, 24% lefel gywir, 19% ddim yn gwybod) neu i farn y cyhoedd (15% gormod, 54% rhy ychydig, 20% lefel gywir, 12% ddim yn gwybod), tra bod 1 o bob 3 yn meddwl eu bod yn talu gormod o sylw i'r hyn maen nhw'n meddwl sy'n iawn (35% gormod, 25% rhy ychydig, 24% lefel gywir, 16% ddim yn gwybod).