Rhoi sylw i dlodi tanwydd
Mae ymchwilwyr Brifysgol Caerdydd wedi datblygu adnodd newydd sy'n nodi'r aelwydydd sydd fwyaf angen cymorth i gynhesu eu cartrefi.
Mae'r llu o resi o dai teras ar strydoedd Port Talbot yn olygfa adnabyddus, sy'n cael eu hailadrodd mewn cymunedau ledled Cymru a sawl rhan arall o'r DU.
Wedi'u hadeiladu yn y ganrif ddiwethaf, gall eu deiliaid presennol weithiau gael trafferth gyda chostau eu gwresogi.
Yn 2018, cafodd tua 12% o gartrefi yng Nghymru eu hystyried mewn tlodi tanwydd - pan nad yw aelwyd yn gallu cynhesu ei gartref yn ddigonol oherwydd incwm isel, costau ynni uchel, ac effeithlonrwydd ynni gwael.
Gall tlodi tanwydd arwain at lefelau uchel o salwch, biliau tanwydd costus a chael effaith negyddol ar newid hinsawdd.
Mae angen cymorth ariannol wedi'i dargedu ar gyfer pobl sy'n byw yn y cartrefi hynny — ond ar gyllidebau cyfyngedig, sut mae modd dod o hyd i'r rhai mwyaf mewn angen?
Wrth wynebu'r her, datblygodd tîm o Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA) y Brifysgol dan arweiniad Dr Simon Lannon, Dr Jo Patterson a'r Athro Phil Jones system fapio unigryw i sefydlu, am y tro cyntaf, lle byddai mesurau arbed ynni wedi'u targedu, megis ôl-ffitio inswleiddio, yn sicrhau'r uchafswm posibl o ran lleihau'r defnydd o ynni gwastraff.
Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Caerdydd