
REACH Cymru
Mae REACH Cymru’n brosiect treftadaeth a chelfyddydau creadigol sy’n cynorthwyo pobl mewn pum ardal yng Nghymru i archwilio cysylltiadau â hanes eu hardaloedd lleol.
Gan weithio gyda phartneriaid lleol gan gynnwys arweinwyr cymunedol, cymdeithasau tai ac Amgueddfa Cymru, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi datblygu prosiect sy’n galluogi cyfranogwyr i ddysgu’n greadigol am yr hanesion sydd wedi llunio eu cymunedau. Mae’r cymunedau sy’n rhan o’r prosiect yn cynnwys:
- Pobl sy'n byw yn Nhrebiwt yng Nghaerdydd, un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y DU
- Ardal Sandfields ym Mhort Talbot, tref sydd wedi bod wrth galon hanes diwydiannol Cymru
- Sawl ardal lled-wledig ar draws Sir Benfro
- Pobl ag anabledd dysgu sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg
- Ardaloedd o Wynedd sydd â chysylltiadau â chwareli llechi