
Prosiect Treftadaeth CAER
Nod Prosiect Treftadaeth Caer gan Brifysgol Caerdydd yw codi proffil safleoedd hanesyddol fel Bryngaer Caerau, sef y safle mwyaf o ran maint a chymhlethdod o’r Oes Haearn yn ardal Caerdydd. Mae'r prosiect yn cynnwys pobl a chymunedau lleol ym mhob rhan o'r broses trwy weithgareddau fel ymchwil hanesyddol a chloddfeydd archeolegol.
Mae'r prosiect wedi denu dros 3,500 o gyfranogwyr gweithredol hyd yma.
Cennad ddinesig
Mae prifysgolion yng Nghymru yn chwarae rôl ddinesig bwysig yn eu cymunedau, ac mae ganddynt hanes balch o weithio gyda phobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnes.
Darganfyddwch fwy am waith cennad ddinesig ein haelodau